Mynd i'r afael â’r trawsnewid mewn Seicoleg
Caiff athrawon ysgol, tiwtoriaid coleg ac academyddion prifysgol gyfle i ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad adeiladol i drafod sut y gallant helpu myfyrwyr i ymdopi â'r naid o'r ysgol neu goleg i brifysgol, sydd weithiau’n anodd.
Cynhelir y gweithdy,‘Tackling Transitions in Psychology', gyda’r nos ac mae’n rhad ac am ddim. Bydd yn edrych ar ffyrdd y gall athrawon seicoleg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion weithio gyda'i gilydd i 'fynd i'r afael â’r trawsnewid’ a darparu digon o gyfleoedd i rwydweithio gyda'r rhai sy'n gweithio yn y system addysg seicoleg.
Cynhelir y digwyddiad yma ar y cyd gan yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, yr Academi Addysg Uwch a’r National Science Learning Centre ar 2 Mai ym Mhrifysgol Bangor. Cewch gofrestru drwy’r wefan yma.
Meddai Dr Fay Short, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor:
"Rwy'n credu y bydd hwn yn gyfle gwych i academyddion ac athrawon gael mewnwelediad unigryw i sectorau eraill o addysg tu hwnt i'w hamgylchedd addysgu uniongyrchol eu hunain. Bydd y cydweithio agos hwn rhwng gweithwyr proffesiynol yn ffordd o wella profiad myfyrwyr ar lefel addysg uwch ac addysg bellach yn y dyfodol. "
Meddai Dr Julie Hulme, Academi Addysg Uwch:
"Mae rhai myfyrwyr yn gweld symud o’r chweched dosbarth yn yr ysgol neu goleg i addysg prifysgol yn heriol. Mae gennym dystiolaeth o arferion da ar draws y Deyrnas Unedig sy’n awgrymu y gall cydweithio rhwng adrannau cyn-drydyddol ac academaidd fod o fudd i fyfyrwyr. Mae o fantais hefyd i athrawon yn y ddau sector. Mae'r digwyddiad yn anelu at ddod ag athrawon seicoleg o ysgolion a cholegau ac academyddion prifysgol at ei gilydd i rannu arfer gorau. "
Meddai Leanne McLean-Jones, Ysgol Friars:
"Rydw i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda fy nghydweithwyr yn addysg uwch ar y problemau sy'n wynebu’r ddau sector addysg. Mae paratoi disgyblion ar gyfer trosglwyddo yn parhau’n yn anodd am wahanol resymau. Mae gofynion byrddau arholi yn aml yn gofyn am agwedd ragnodol at addysgu ac mae cynllunio'r addysgu yn aml yn gofyn am ryw elfen o sylw arwynebol. Yn aml, mae hyn yn golygu ein bod yn colli golwg ar ein nod o sicrhau bod ein disgyblion yn llwyddo mewn amgylchedd addysg uwch. Dylai gweithio mewn partneriaeth a chynnig atebion ar gyfer trawsnewid ein galluogi i ganolbwyntio ar wneud y newidiadau ar lefel gyffredin a fydd o fudd i’r disgyblion yn y pen draw."
Yn ystod y noson, caiff cyfranogwyr eu gwahodd i weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill o’r ddau sector i greu cynllun pendant ar gyfer cydweithio at y dyfodol. Er enghraifft, gall academyddion prifysgol weithio gydag athrawon ysgol i sefydlu prosiect ymchwil ar y cyd neu ymyriad addysgu newydd arloesol.
Bydd y gweithdy yn cael ei arwain gan banel a fydd yn cynnwys Dr Janet De Wilde a Dr Julie Hulme, yr Academi Addysg Uwch; Dr Jeremy Airey o'r National Science Learning Centre; Dr Fay Short a Dr Tracey Lloyd o Brifysgol Bangor a Leanne McLean-Jones o Ysgol Friars.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2012