Mynegi pryder am 'Bangor Fresh'
Mae Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor wedi mynegi pryder ynglŷn â “Bangor Fresh”, digwyddiad wedi ei drefnu gan Top Banana Promotions a gynhelir ar 18 Medi ac sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr.
Mae eu pryderon yn deillio o ddigwyddiadau tebyg a gynhaliwyd yn y gorffennol ac a darfodd ar drigolion lleol a pheri risg i’r rhai a gymerodd ran yn y digwyddiadau.
Dywedodd David Roberts, Cofrestrydd Prifysgol Bangor: “Rydym yn pryderu’n fawr am les yr unigolion fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad ac am y posibilrwydd y bydd yn tarfu ar y gymuned leol a chreu problemau, a hoffem bwysleisio nad yw’r Brifysgol yn cefnogi'r digwyddiad hwn."
Dywedodd Jo Caulfield, Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor: “Mae Undeb y Myfyrwyr wedi trefnu amryw o ddigwyddiadau swyddogol ar gyfer Wythnos y Glas a byddwn yn annog myfyrwyr i fynd i'r digwyddiadau hynny yn hytrach nac i'r digwyddiad hwn, nad yw’n gysylltiedig o gwbl ag Undeb y Myfyrwyr na’r Brifysgol. Mae lles ein myfyrwyr yn bwysig dros ben i ni ac mae gennym nifer o bryderon am ddigwyddiadau fel y digwyddiad hwn.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2011