Nadolig Fictoraidd ym Miwmares
Gyda’r Nadolig yn agosáu, bu aelodau Cymdeithas Ddrama Saesneg Bangor yn cymryd rhan mewn digwyddiad lleol blynyddol a oedd yn siŵr o ysgogi naws Nadoligaidd.
Ar y 24ain o Dachwedd, roedd y gymdeithas yn rhan o Nadolig Fictoraidd Biwmares gyda phawb wedi gwisgo mewn dillad Fictoraidd ac yn perfformio nifer o olygfeydd enwog Dickens o flaen y cyhoedd.
Mae busnesau ym Miwmares yn cymryd rhan bob blwyddyn drwy addurno eu siopa a gwerthu crefftau a melysion hen ffasiwn ar stondinau sydd wedi eu gosod ar y stryd fawr. Roedd rhai hyd yn oed wedi gosod peiriant eira yn eu ffenestri llofft er mwyn creu cawod o eira. Roedd hyd yn oed Y Parlwr Hufen Iâ enwog wedi creu blasau newydd Nadoligaidd ac yn dosbarthu gwin cynnes. Er y tywydd oer, roedd yr hufen iâ Nadoligaidd yn boblogaidd iawn.
Roedd Becki Moss, myfyrwraig trydedd flwyddyn yn astudio Ieithyddiaeth Saesneg, yn cymryd rhan yn y diwrnod. Dywedodd,
“Mae wedi bod yn ddiwrnod grêt ac rwyf yn teimlo’n Nadoligaidd iawn! Rwyf wedi bod yn aelod o’r Gymdeithas Ddrama Saesneg ers fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol a dyma’r tro cyntaf i mi beidio actio yn y perfformiadau, felly rwyf wedi cael y cyfle i fwynhau'r diwrnod i’r eithaf.”
Fe gychwynnodd y diwrnod gyda chanu carolau ac ymweliad gan Siôn Corn, yna gorymdaith o amgylch y dref gydag ymweliad arbennig gan y “Frenhines Fictoria” a “Thywysog Albert”, sef dau aelod o’r gymdeithas ddrama a oedd yn cerdded o amgylch Biwmares ynghŷd â nifer o gymeriadau enwog Dickens fel Fagin, Scrooge a hyd yn oed Charles Dickens ei hun. Ychwanegodd Becki,
“Mae’r Gymdeithas Ddrama Saesneg yn gymdeithas wych i fod yn rhan ohoni ac rwy’n mwynhau'r diwrnod Fictoraidd a’r Diwrnod Canoloesol dechrau’r flwyddyn. Mae’n gyfle gwych i fynd allan i’r gymuned ac i berfformio o flaen pobl ar wahân i fyfyrwyr. Dwi’n credu fod y cyhoedd yn gwerthfawrogi'r ymdrech yn fawr. Y peth anoddaf ydi aros mewn cymeriad pan mae rhywun yn gofyn cwestiwn!”
Roedd y perfformiadau i gyd yn llwyddiannus, yn enwedig addasiad y gymdeithas o’r clasur “A Christmas Carol” a gafodd ei berfformio yn iard yr eglwys.
Daeth y diwrnod i ddiwedd yn yr un modd a sut y cychwynnodd, gyda Maer Biwmares yn arwain y canu carolau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2012