Newid cyflym mewn riffiau cwrel yn arwain at alwadau byd-eang am ailystyried y sefyllfa
Mae arbenigwyr ar riffiau cwrel o bedwar ban byd yn galw am ailystyried ein nodau hinsawdd rhag blaen yng ngoleuni tystiolaeth gynyddol fod yr ecosystemau bregus hyn yn newid a dirywio yn hynod gyflym.
Mae riffiau cwrel, sydd wedi gweithredu'n gymharol ddigyfnewid am oddeutu 24 miliwn o flynyddoedd, bellach yn mynd trwy newidiadau eithriadol o ran eu gwneuthuriad.
Mewn darn arbennig yn Functional Ecology (https://besjournals.onlinelibrary.wiley.com/toc/13652435/2019/33/6), mae rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes riffiau cwrel yn gofyn cwestiynau treiddgar am y blaenoriaethau'n ymwneud â chadwraeth riffiau ac ecoleg riffiau yn wyneb y newidiadau diweddar a chyflym hyn, sydd wedi bod yn llawer mwy na'r hyn a ragwelwyd.
Mae'r gwyddonwyr yn rhoi sylw i faterion megis sut y dylem ddiffinio beth yw riff gwrel weithredol mewn gwirionedd yn yr Anthropocene, cyfnod pryd mai bodau dynol yw'r prif rym sy'n peri newid i'r blaned.
Wrth i hinsawdd y byd newid, mae tymereddau trofannol yn symud tuag at y pegynau, gan alluogi i gwrelau dyfu mewn mannau newydd. Wrth i gwrelau gael eu colli mewn rhai moroedd sy'n cynhesu'n gyflym, a thyfu ar y llaw arall mewn dyfroedd a oedd gynt yn rhy oer iddynt ffynnu ynddynt, sut mae gwyddonwyr amgylcheddol yn mynd i ymateb i'r sefyllfa?
Mae'r darlun newidiol hwn yn gofyn am ymatebion ffres gan y gymuned wyddonol os ydym am ddiogelu ecosystemau cwrel, ynghyd â'r gwasanaethau a'r buddion y maent yn eu darparu, o fwyd i dwristiaeth, diogelu'r arfordir a chynnal ecosystemau.
Meddai'r Athro Nick Graham o Brifysgol Lancaster: “Mae riffiau cwrel wedi bod gyda ni ar ryw ffurf ers oes y deinosoriaid a heddiw maent yn un o'r elfennau amlycaf o ran ymatebion i newid yn yr hinsawdd a phob math o bwysau arall a achosir gan bobl. Mae ein darn arbennig yn y cyfnodolyn yn trafod sut mae'r gymuned wyddonol sy'n ymdrin â riffiau cwrel yn sylweddoli'n gynyddol bod newidiadau mawr yn digwydd o ran sut mae riffiau cwrel yn gweithredu, eu dosbarthiad daearyddol, a'r manteision i bobl sy'n deillio ohonynt. Mae'r gymuned wyddonol, rheolwyr a defnyddwyr adnoddau yn gorfod deall ac ymaddasu'n gyflym i'r ecosystem newidiol hon a dysgu sut i'w chynnal. Ni fydd hynny'n bosib oni bai bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau'n gyflym."
Meddai Dr Gareth Williams o Brifysgol Bangor: “Mae'r darn arbennig hwn ar ecoleg swyddogaethol riffiau cwrel yn angenrheidiol ac yn amserol. O fewn un genhedlaeth rydym eisoes yn gweld newidiadau nas rhagwelwyd. Mae'r newid hwn yn digwydd mor gyflym fel bod angen i ni ailystyried a holi pa mor berthnasol yw ein dealltwriaeth o'r ffordd mae'r ecosystemau hyn yn gweithredu, rhywbeth sydd wedi'i ddatblygu dros ddegawdau lawer o ymchwil. Mae'r gwaith yn galw ar y gymuned wyddonol i ailystyried llawer o gwestiynau a damcaniaethau arferol sy'n ymwneud ag ecoleg, rheolaeth a chadwraeth riffiau cwrel, gan ofyn cwestiynau heriol megis: beth sy'n gwneud riff gwrel weithredol yn y senario hinsawdd newydd hon a byd y mae pobl yn tra-arglwyddiaethu drosto? Mae gan ateb y cwestiynau hyn oblygiadau pwysig o ran sut rydym yn astudio, yn disgrifio ac yn rheoli'r ecosystemau hyn wrth symud ymlaen
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019