Newid Cymru - Canolfan ymchwil genedlaethol yn dathlu deng mlynedd
Mae WISERD yn fenter gydweithredol rhwng pump o brifysgolion Cymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe), ac mae ei hymchwil arloesol wedi amlygu llawer o’r heriau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu'r wlad.
Mae gwaith WISERD wedi cael effaith fawr ar lunio dyfodol y genedl gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwella bywydau pobl leol. At hynny, mae wedi cyfrannu at ymchwil a thrafodaethau rhyngwladol ynglŷn â rhai o brif broblemau'r gymdeithas.
Dros y degawd diwethaf, bu datblygiadau cyfansoddiadol a gwleidyddol mawr yng Nghymru ac mae gwaith WISERD wedi bod yn cynnig tystiolaeth newydd ac amserol am amrywiaeth eang o faterion polisi.
Mae’r sefydliad wedi ymchwilio i feysydd amrywiol gan gynnwys:
- Addysg – Nodi safbwyntiau ac agweddau pobl ifanc yng Nghymru a gwerthuso mentrau polisi addysgol Llywodraeth Cymru;
- Yr henoed – Asesu effaith dementia, dadansoddi sut y gellir gwella gofal cymdeithasol ac astudio sut mae pobl hŷn yn ofni troseddu;
- Anghydraddoldebau daearyddol – Ystyried sut mae lleoliad cartrefi pobl yn effeithio ar eu gallu i gael gwasanaethau hanfodol yng Nghymru;
- Gweithwyr – Meintioli’r gwahaniaethau o ran cyflog yn y farchnad lafur, y bwlch cyflogaeth i bobl anabl, a thueddiadau yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau;
- Ymddieithrio gwleidyddol – Amlygu sut roedd pobl ifanc yn ymddiddori yn y bleidlais am Brexit a’u barn am ymfudwyr. Hefyd, mae’r ymchwil wedi dadansoddi cyfraddau aelodaeth undebau llafur a’u hymgyrchoedd.
Mae WISERD wedi denu mwy na £27 miliwn o gyllid i Gymru gan ystod eang o ffynonellau, ac mae bellach yn edrych i'r deng mlynedd nesaf.
Meddai’r Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD: “Rydym wrth ein bodd yn dathlu degawd o ymchwil sy'n bwysig ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Fel rhan o bartneriaeth o bum prifysgol yng Nghymru a rhai eraill yn y DU ac Ewrop, rydym wedi casglu ein holl arbenigeddau ynghyd er mwyn gwneud ymchwil arloesol, sy'n berthnasol i bolisïau ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ynglŷn ag amrywiaeth o heriau cymdeithasol ac economaidd.
“Mae gwaith WISERD yn adlewyrchu safle Cymru fel gwlad ddatganoledig sy’n gweithredu mewn cyd-destun byd-eang. Mae ein hymchwil wedi helpu llunwyr polisïau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau. Mae’r materion hyn yn cynnwys anghenion addysgol pobl ifanc, cynaliadwyedd cenedlaethau’r dyfodol, newidiadau yn y farchnad lafur, gofal cymdeithasol, tai, anghenion yr henoed, tlodi, anghydraddoldeb ac ymddieithrio gwleidyddol yng Nghymru ôl-ddiwydiannol.
“O fewn degawd, rydym wedi magu cysylltiadau rhyngwladol cryf sy’n sbarduno syniadau newydd ac yn rhoi sail o arbenigedd ar gyfer mynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang. Rydym mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â heriau newidiol y dyfodol dros y deng mlynedd nesaf, gyda chymorth ein prifysgolion, Llywodraeth Cymru ac ESRC.”
Meddai’r Athro Howard Davis o Brifysgol Bangor: “Mae cymdeithasegwyr ym Mangor wedi cyfrannu’n sylweddol at raglen ymchwil WISERD, gan gynnwys gwaith ar gymdeithas sifil, gwaith, heneiddio ac anghydraddoldeb. Rydym yn dyst i’r ffaith fod cynnal partneriaeth a chydweithio yn ymestyn ansawdd ac effaith y gwaith yr ydym yn ei gyflawni.”
Yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Llongyfarchiadau i WISERD ar gyrraedd ei ddengmlwyddiant. Mae'n hanfodol i Gymru fod â seilwaith ymchwil cryf, sy'n cynnig dadansoddiadau craff a diddorol.
"Mae ymchwil WISERD a'r data a gynhyrchir yn hynod werthfawr am ei bod yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ni o'r gymdeithas sifil, ac yn ein helpu i gael hyd i atebion sy'n ein galluogi, drwy wella ein dulliau, i ddeall effaith ein penderfyniadau. Bydd hyn yn ei dro yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r hyn sydd ei angen ar bobl Cymru."
Dywedodd Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC): "Rwy'n falch iawn o waith ESRC gyda WISERD, ac mae'n bleser dathlu ei ddengmlwyddiant. Mae'r sefydliad yn parhau i gynnal prosiectau ESRC sy'n cael effaith, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD sy'n gweithredu ledled y DU. Mae WISERD yn dangos pa mor dreiddgar a rhagorol yw'r gwaith ymchwil cydweithredol yng Nghymru, sy'n arwain at ymchwil gwyddorau cymdeithasol sy'n dwyn canlyniadau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol."
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC): "Rydym wedi bod wrth ein bodd i weld WISERD yn datblygu dros y degawd diwethaf, ar ôl buddsoddi ynddo o'r dechrau pan gafodd ei sefydlu. Mae WISERD wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae wedi ennill ei blwyf fel ffynhonnell o dystiolaeth ymchwil annibynnol sydd â hygrededd ar lefel ryngwladol yng Nghymru a dros Gymru, sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl Cymru. Llongyfarchiadau, WISERD, ar y deng mlynedd gyntaf, a phob dymuniad gorau ar gyfer y deng mlynedd nesaf."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2018