Newid Hinsawdd: Y Dystiolaeth
Ym mis Hydref, bydd Prifysgol Bangor yn lansio cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus ar newid hinsawdd, yn dod i ben ar 29 Tachwedd gyda dadl yn null Pawb a’i Farn. Bydd gwyddonwyr blaenllaw, yn cynnwys Syr John Houghton FRS a’r Athro James Scourse, yn cyflwyno tystiolaeth seiliedig ar ymchwil ynglŷn â newid hinsawdd a’r effeithiau a gaiff ar ein planed.
Bydd Cyfres Darlithiau Hydref Consortiwm Cymru ar Newid Hinsawdd, sef Climate Change: the Evidence, yn cychwyn nos Iau 4 Hydref 2011. Bydd y gwyddonwyr blaenllaw o brifysgolion Cymru yn cyflwyno’r dystiolaeth bob nos Fawrth am 7pm ym Mhrif ddarlithfa’r Celfyddyday, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor. Bydd pob noson â dwy ddarlith, a fydd yn gysylltiedig â thema gyffredinol, megis y moroedd. Bwriedir i’r gyfres o ddarlithoedd fynd trwy’r prif themâu sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd mewn dilyniant, gan gychwyn â ffiseg hinsawdd a chan orffen â dimensiynau dynol a Chymreig newid hinsawdd. Caiff y gynulleidfa amser i holi’r gwyddonwyr, ynghyd ag egwyl, pryd y darperir te a choffi.
Cyfres Darlithoedd C3W 4 Hydref – The Physics of Climate - Yr Athro James Scourse & Dr Tom Rippeth 11 Hydref – Natural Climate Variability - Dr Paul Butler & Yr Athro James Scourse 18 Hydref – Climate Change and the Oceans - Dr Tom Rippeth & Dr Martin Ziegler 25 Hydref – Climate Change and the Great Ice Sheets - Yr Athro Mike Hambrey & Yr Athro Bryn Hubbard 1 Tachwedd – Climate Change and the Human Dimension - Dr Wouter Poortinga & Dr Saskia Pagella 8 Tachwedd – Climate Change and Engineering - Yr Athro Roger Falconer & Yr Athro Chris Freeman 15 Tachwedd – Climate Change and Wales - Yr Athro Bridget Emmett & Dr Clive Walmsley 22 Tachwedd – Climate Change and Carbon Accounting - Dr Rachel Taylor & Dr Calvin Jones 29 Tachwedd – Climate Change and Education - Jane Davidson & LIVE QUESTION TIME DEBATE - Panel members: Syr John Houghton FRS, Jane Davidson, Yr Athro James Scourse, Dr Clive Walmsley & Dr Lorraine Whitmarsh |
Mae Consortiwm Cymru ar Newid Hinsawdd (C3W) yn bartneriaeth ymchwil fawr, yn cynnwys timau aml-ddisgyblaeth blaenllaw ym mhedair o Brifysgolion Cymru, sef Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Mae C3W yn derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru a chymorth ychwanegol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Syr John Houghton FRS, cyn-Bennaeth y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a chyn-Brif Swyddog Gweithredol Swyddfa Feteorolegol y DU yw ein Prif Ymgynghorydd Gwyddonol. Yn C3W, rydym yn ceisio darparu a chreu ymchwil gytbwys, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn sylfaen i gyngor a mentrau polisi yng nghyswllt newid hinsawdd a newid amgylcheddol. Yn anad dim, rydym yn ceisio cryfhau ein dealltwriaeth o’r prosesau sy’n ysgogi newid hinsawdd, er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau ar sut i leihau effeithiau andwyol ar ein cymunedau. Mae gennym hefyd dîm estyn braich sydd wedi ymrwymo i drosglwyddo’r ymchwil i’r sectorau perthnasol mewn cymdeithas.
Climate Change: the Evidence yw’r gyntaf o bedair cyfres flynyddol o ddarlithoedd sydd i’w cynnal gan bob un o’r pedair Prifysgol dan sylw yng Nghymru, gyda’r bwriad penodol o greu cyswllt rhwng y cyhoedd a’r ymchwilwyr, ac yn cynnwys gwaith o ddisgyblaethau lluosog. Jane Davidson, cyn-Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai fydd yn traddodi’r ddarlith olaf ar 29 Tachwedd, ac yna, cynhelir sesiwn fyw yn null Pawb â’i Farn. Bydd panel o arbenigwyr yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa, ac mae’n bleser gan C3W gyhoeddi y bydd Syr John Houghton FRS yn un o’r arbenigwyr ar y panel.
Cynhelir darlithoedd bob nos Fawrth am 7pm ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, o 4 Hydref tan 29 Tachwedd 2011. Mae mynediad am ddim a bydd croeso i bawb. Dewch draw i glywed y cwbl am y dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â newid hinsawdd!
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Dr Pagella (Ffôn: 01248 382600) yng Nghanolfan Amgylchedd Cymru, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2011