Ni fu chwilio am lety erioed mor rhwydd!
Pan fydd angen meddwl am rywle i fyw y flwyddyn nesaf, bydd y dasg o chwilio am y tŷ delfrydol i fyfyrwyr ym Mangor yn llawer haws – gyda rhaglen ar-lein newydd i gael hyd i’r cartref delfrydol.
Gallwch weld y safle ar wefan Prifysgol Bangor yn: www.bangor.ac.uk/studentservices/studenthousing/
Mae’n gronfa ddata gyfredol y gallwch ei chwilio i gael hyd i lety preifat yn ystod astudiaethau ym Mangor. Felly os ydy myfyrwyr yn symud allan o neuadd neu’n gadael tenantiaeth, ni ddylai’r dasg o chwilio am gartref newydd fod mor anodd!
Eglurodd Amy Jones yn y Swyddfa Tai Myfyrwyr: “Bydd y safle yn gwneud chwilio am dŷ yn haws. Mae llawer mwy o fanylion am bob tŷ ar y safle nag o’r blaen, ac mae’r landlordiaid yn gallu uwchlwytho lluniau. Gall myfyrwyr anfon manylion am dai unigol ar e-bost at eu ffrindiau – i hwyluso’r dasg o gael hyd i’r tŷ perffaith ar gyfer y flwyddyn nesaf. Gallant hefyd gofrestru i'r safle fel y gall y safle roi gwybod i myfyrwyr pan fydd tai sy'n cyfateb i’w gofynion ar gael."
Meddai Mair Owen yn Swyddfa Tai Myfyrwyr y Brifysgol: “Byddwn yn dal i fod yma yn y swyddfa yn helpu a chynghori myfyrwyr ynglŷn â chwilio am dai neu unrhyw anawsterau neu broblemau y gallant eu hwynebu, ond ni fydd raid i’r myfyrwyr sy’n chwilio am dŷ alw i mewn mor aml i weld pa dai sydd ar gael i’w rhentu.”
Mae’r safle hefyd yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol arall fel y rhent cyfartalog mewn gwahanol ardaloedd. Gall myfyrwyr sydd wedi eu lleoli yn Wrecsam hefyd gael hyd i dai drwy’r safle.
Meddai Steph Barbaresi: “Rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd o wella a datblygu'r gefnogaeth a roddir i’n myfyrwyr. Yn yr achos hwn, rydym wedi gweithio gyda chwmni meddalwedd, Studentpad- i ddatblygu fersiwn dwyieithog o’u meddalwedd a oedd yn cyd-fynd â gwefan ddwyieithog y Brifysgol. Bu Gwasanaethau TG y Brifysgol a Chanolfan Bedwyr yn ein helpu i wireddu’r project. Rydym mor falch ei fod ar waith cyn i’r flwyddyn academaidd hon ddechrau.”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2013