Nid "am ei fod yno" yn unig y mae ei ddringo’n apelio
Efallai bod y mynyddwr enwog, George Mallory wedi rhoi’r ateb bachog, bod pobl yn dringo Everest 'oherwydd ei fod yno'. Ond mae’r rhesymau dros beth sy’n ysgogi pobol i chwilio am chwaraeon eithafol megis mynydda tir uchel lawer mwy cymhleth. Mae seicolegwyr chwaraeon Prifysgol Bangor yn cael eu cydnabod am fid yn flaenllaw am sefydlu'r cymhellion seicolegol dros gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol.
Wrth ddatrus y rhesymau cymhleth sy'n gyrru pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol neu beryglus neu heriau dygnwch hir, mae'n ymddangos bod concro’r straen a achosir gan yr her yn bwysicach na chyflawni’r gamp, oherwydd y cynnydd emosiynol o lwyddo.
"Yn aml bydd mynyddwyr yn atgofio sut y bu iddynt oresgyn eu hofnau a'u pryder yn ystod taith arbennig o heriol yn hytrach na dwyn i gof sut y gwnaethant lwyddo i ddringo i’r copa. Mae'n ymddangos nad yw cyrraedd y copa mor bwysig â gorchfygu’u hemosiynau eu hunain, sydd yn aml yn gryf ac yn negyddol "meddai Dr Tim Woodman o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Mae Dr Woodman yn esbonio bod pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon eithafol yn profi’r un dwysedd o emosiynau a thrwch y boblogaeth, ond bod eu disgwyliadau o fywyd yn ymddangos i fod yn uwch. O ganlyniad, maent yn chwilio am chwaraeon eithafol i brofi ymateb emosiynol dwysach.
Mae ymchwil sy’n seiliedig ar gyfweliadau a holiaduron helaeth a gynhaliwyd gan y Sefydliad ar gyfer Seicoleg Perfformiad Elitaidd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn dangos bod dwy elfen yn cael eu cynnwys. Un maen nhw'n ei alw'n 'Rheoleiddio emosiwn'. Y paradocs yw, tra bod rhan fwyaf o bobl yn ceisio emosiynau pleserus, mae’r rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon eithafol yn aml yn ceisio profi emosiwn negyddol megis pryder er mwyn cael rheolaeth dros yr emosiwn ac, yn y pendraw, troi'r emosiwn negyddol yn un cadarnhaol - gyda'r teimladau o ewfforia sy'n dilyn.
Mae'r ymchwilwyr yn disgrifio’r agwedd arall fel 'asiantaeth'. Maent wedi sefydlu am y tro cyntaf bod pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon eithafol yn gwneud hynny i wneud iawn am ddiffyg 'asiantaeth' neu ddylanwad mewn agweddau eraill ar eu bywydau, megis eu partneriaeth emosiynol. Maent yn gallu ennill 'asiantaeth' neu ddylanwad mewn agwedd benodol ar eu bywydau trwy eu gweithredoedd yn eu gweithgaredd dewisedig. Mewn geiriau eraill, bydd pobl yn teimlo y gallant lywio’r profiadau emosiynol yn y mynyddoedd yn hytrach na theimlo fel y teithwyr o ran profiadau mewn bywyd bob dydd.
Daw Tim Woodman i'r casgliad bod y mathau hyn o bobl yn ymateb i angen a seicolegol, a'u bod yn aml yn gwneud arweinwyr da. "Maen nhw'n aml yn eithaf pwyllog, gan fod angen sefydlogrwydd emosiynol i ymdopi â'r pwysau yr ydych yn rhoi eich hun o dan yn y sefyllfaoedd eithafol."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Rhagfyr 2011