Nid Yw Economi Werdd Erioed Wedi Edrych Cystal
“Mae’n debygol bod dros draean o dwf economaidd y DU yn 2011-12 wedi dod o fusnesau gwyrdd” meddai adroddiad diweddaraf y CBI. Busnes gwyrdd yw’r ardal dwf bwysicaf ar gyfer adferiad economaidd Cymru gyda swyddi carbon isel ac amgylcheddol yn tyfu ddwywaith mor gyflym â’r sectorau gweithgynhyrchu a manwerthu. Tra bod cyfradd twf GDP wedi plymio i lawr, mae trosiant yr economi werdd wedi saethu i fyny wrth i fuddsoddiadau mewn projectau carbon isel barhau i dyfu.
Bydd Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd Prifysgol Bangor yn cefnogi busnesau lleol sydd eisiau elwa o’r economi werdd yn eu digwyddiad yng Ngwesty’r Cei Deganwy ddydd Iau Hydref 4. Bydd Peter Jones OBE, arbenigwr ar effeithlonrwydd adnoddau a chyn-gyfarwyddwr gwasanaethau gwastraff BIFFA yn datgelu mwy am gyfleoedd a sialensiau twf gwyrdd.
Dywedodd: “Os cawn ni’r polisïau a’r diwydiannau cywir yn eu lle gallwn roi hwb arall eto i’n GDP gan gyflwyno mwy o swyddi, mwy o gyfoeth a safonau byw uwch – tra’n dal i achub y blaned”
Bargen Newydd Werdd i Gymru
Ni allai digwyddiad y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn yr hydref fod yn fwy amserol gan ei fod yn cyd-daro â golwg newydd ar yr economi gan bob plaid wleidyddol. Gyda’r egwyddor o ddatblygiad cynaliadwy wrth galon y llywodraeth a’r fargen newydd werdd y mae Plaid Cymru newydd ei chyhoeddi, mae’r polisïau hyn yn ceisio hybu economi Cymru yn y llefydd iawn.
Mewn araith yng Nghynhadledd Plaid Cymru’n ddiweddar, dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: “Mae Cymru angen swyddi. Mae mor syml â hynny. Ac mae digonedd o waith angen cael ei wneud. Mae Cymru angen Bargen Newydd. Bargen Newydd Werdd - yn darparu sgiliau, gwaith, gobaith a chyfleoedd i genhedlaeth newydd y mae hawl ganddi i gredu y gall bywyd fod yn well”
Bydd cynhyrchu mwy o ynni a rhaglen effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ffurfio rhan o gynigion am ddyfodol gwyrddach. Mae hyrwyddo’r economi werdd drwy hybu cyfleoedd economaidd mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy ac eco-dwristiaeth wrth galon amcanion y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd.
“Rydym yn dod â chwmnïau o Gymru at ei gilydd er mwyn gwireddu cyfleoedd busnes gwyrdd - a hynny’n fwy amserol nag erioed - nid yw economi werdd erioed wedi edrych cystal!” meddai cyfarwyddwr project cynaladwyedd Prifysgol Bangor, Stuart Bond.
Bydd cwmnïau lleol yn rhan fawr o’r digwyddiad gyda sesiwn Arddangos Cynaladwyedd er mwyn darganfod beth sy’n digwydd yn yr ardal yn barod. Bydd North Wales Hydro Power ac eco-westy Bryn Bella ymysg yr amrywiaeth eang o gwmnïau fydd yn rhannu’u profiadau.
Byw’n Gynaliadwy: Mae ‘Dwelle’ yn swel
Bydd y pensaer arobryn Ric Frankland, y mae ei ficro-gartrefi wedi’u harddangos yn Greenbuild Expo Manceinion a Grand Designs, Birmingham, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Bydd yn egluro sut y ceisiodd wneud busnes gwyrdd yn llwyddiant yn yr hinsawdd economaidd bresennol ac yn dweud mwy wrthym am y sialensiau a wynebodd wrth adeiladu’r prototeip cyntaf o’r eco-gartref. Mae’r tai parod yn dangos mai “byw’n fach yw’r ffordd newydd o fyw’n fawr” gyda dyluniadau modern cynnil a nodweddion cynaliadwy fel deunydd insiwleiddio wedi’i wneud 100% o bapurau newydd wedi’u hailgylchu, ffenestri gwydrau dwbl a’r gallu i ennill statws di-garbon
Yr economi werdd a’r dyfodol
Bydd gofyn i ni wneud pethau’n wahanol er mwyn tynnu’n hunain allan o’r dirwasgiad hwn. Mae’r mantra nawr yn wyrdd ac mae hyn yn berthnasol i’r economi hefyd. Gall gweithio gyda phrojectau fel y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd helpu cwmnïau i gael y gorau ar felan y dirwasgiad a datblygu dyfodol sy’n gynaliadwy i bawb. Ewch i flaen y gad a logiwch i mewn i greeninnovationnetwork.org er mwyn darganfod mwy.
Dydd Iau Hydref 4, 15:30 – 18-45, Cysylltwch â s.francis@bangor.ac.uk i archebu lle www.greeninnovationnetwork.org
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2012