Nid yw’r cyfan yn sbwriel!
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi cynhyrchu llyfryn dwyieithog 16 tudalen Canllaw Goroesi Sbwriel gyda’r bwriad o annog myfyrwyr i wneud mwy o ailgylchu a chadw’r strydoedd yn glir o wastraff.
Mae’r llyfryn yn un hwyliog ac addysgiadol sy’n cynnig gwybodaeth am systemau casglu sbwriel ac ailgylchu yng Ngwynedd. Cynhyrchwyd y llyfryn mewn ymateb i gamddealltwriaeth ymysg myfyrwyr yn y gorffennol ynglŷn â beth sy’n mynd i ba fin a pa ddyddiau mae’r gwastraff yn cael ei gasglu, wrth i fyfyrwyr gyrraedd o wahanol wledydd ac ardaloedd - i gyd gyda’i amrywiadau rhanbarthol gwahanol o gasglu sbwriel.
Mae’r ymgyrch diweddaraf hwn yn adeiladu ar lwyddiant blaenorol ymgyrchoedd yr Undeb Myfyrwyr diwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf o waredu gwastraff - “Allan â Fo er Mwyn Bangor!” a “Hei Pync - Sortia dy Jync!”
Dywedodd Rich Gorman, Is-lywydd Cymdeithasau a Chynaliadwyedd Undeb y Myfyrwyr: “Dechreuwyd y Canllaw Goroesi Gwastraff er mwyn helpu cadw strydoedd Bangor yn lân ac yn daclus, trwy gael gwared ar sbwriel a gwneud yn siŵr bod y sbwriel yn cael ei roi yn y biniau cywir neu yn y bocs ailgylchu, ac yn cael ei roi allan ar y dyddiau cywir.
“Rydym hefyd yn hynod o falch bod y lluniau gafodd eu cyhoeddi yn y Canllaw Goroesi Gwastraff wedi ennill ar lefel cenedlaethol Her Cyfathrebu ‘The Ecologist’. Mae hyn yn llwyddiant gwych ac wedi ennill parch mawr i Undeb Myfyrwyr Bangor.”
Meddai Peter Simpson, Rheolwr Gwasanaethau Stryd Cyngor Gwynedd: “Mae’r datblygiad hwn yn un cadarnhaol dros ben. Dylai’r Undeb Myfyrwyr a’r myfyrwyr marchnata sydd yn gyfrifol am gynhyrchu Canllaw Goroesi Sbwriel gael eu cymeradwyo am eu gwaith arloesol.
“Bydd cylchrediad y canllawiau ymysg myfyrwyr Bangor yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar safon yr amgylchedd lleol ym Mangor.”
Ychwanegodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Cadeirydd Balchder Bangor: ”Hoffwn ddiolch a llongyfarch Undeb Myfyrwyr Bangor am gynhyrchu llyfryn mor ardderchog. Mae Canllaw Goroesi Sbwriel yn enghraifft arall o sut mae partneriaid amrywiol Balchder Bangor yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ddinas.”
Mae is-grŵp Prifysgol a Myfyrwyr Balchder Bangor yn cael eu cefnogi gan ymgyrch Trefi Taclus Cyngor Gwynedd - prosiect wedi ei anelu at helpu unigolion a grwpiau i gymryd cyfrifoldeb dros ansawdd yr amgylchedd yn eu hardal leol. Gwnaed hyn yn bosibl gan arian a dderbyniwyd gan Fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu’n lleol gan Gyngor Gwynedd, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus.
I weld copi o’r Canllaw Goroesi Sbwriel ewch i:
http://www.bangorstudents.com/green/recycling.asp?lang=cy
Am fwy o wybodaeth am ymgyrch Trefi Taclus Cyngor Gwynedd ewch i: www.gwynedd.gov.uk/TrefiTaclus neu ffoniwch 01766 771000.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2011