Nofel arall ar y ffordd – diolch i ysbrydoliaeth yr adran
Mae Ruth Richards o Ynys Môn yn paratoi at gyhoeddi ei thrydedd cyfrol o ryddiaith ac mae’r diolch i gyd, meddai, i Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Mangor.
Rhan o’i chwrs MA Ysgrifennu Creadigol oedd y nofel Pantywennol, a ddaeth yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac sydd wedi cael canmoliaeth uchel a dod yn un o werthwyr Cymraeg gorau’r blynyddoedd diwethaf.
“Faswn i ddim wedi sgwennu dim oni bai am y cwrs,” meddai Ruth Richards. “O’n i eisio sgwennu ond doedd gen i ddim o’r hyder i wneud.
“Mi ges i’r fath gefnogaeth, nid yn unig o ran profiad a gwybodaeth y staff ond y cyfle i drafod y broses o greu efo cyd-fyfyrwyr – oedd hynny’n beth braf.”
Ar ôl cyhoeddi cyfrol o straeon byrion, nofel arall sydd nesaf, un sydd yn dathlu’r syniad o ‘camp’ trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae hi am Bumed Marcwis Môn a oedd wedi difa ffortiwn ar ddillad a theatr a dawnsio,” meddai Ruth. “Ei henw hi ydi Siani Flewog, be arall allwn i alw nofel am ddyn efo mwstash ac yn gwisgo ffrog!”
Roedd hi wedi ei hysbrydoli o weld lluniau o’r Ardalydd ym Mhlas Newydd, Môn, er nad oedd yn cael chwarter y sylw sydd yna i’r Marcwis milwrol enwocach, sydd ar un goes ar ben tŵr ym Mhorthaethwy.
“Oedd hwn wedi gorfod gwario arian er mwyn cael bod yn fo’i hun,” meddai Ruth, sydd bellach yn gwneud Doethuriaeth gydag Ysgol y Gymraeg.
Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y nofelydd Daniel Owen a ffotograffydd cynnar o’r enw John Thomas, oedd yn ffynnu yn yr un cyfnod ac yn tynnu lluniau o’r math o bobl a chymdeithas sydd yn y nofelau.
“Doethuriaeth rhan amser ydi hi, ac mae cael dewis felly’n siwtio’n berffaith, gan fy mod yn gallu cario ymlaen hefyd efo fy swydd ran-amser efo mudiad Dyfodol yr Iaith.”
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018