Nofel gyntaf y darlithydd Alys Conran yn Ennill Llyfr y Flwyddyn 2017
Alys Conran oedd yr enillydd amlycaf yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni, gan gipio tair gwobr yn y seremoni wobrwyo. Enillodd un o’r prif wobrau, sef gwobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn, am ei nofel gyntaf, Pigeon, gan dderbyn tlws wedi ei gomisiynu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones, a gwobr ariannol o £4000. Enillodd y nofel honno Wobr Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Dewis y Bobl iddi hefyd.
Caiff Pigeon ei ddisgrifio fel chwedl am atgofion plentyndod a thorrodd y llyfr gŵys newydd drwy gael ei gyhoeddi yn Saesneg ac yn Gymraeg ar yr un pryd. Ysgrifennwyd Pijin, y cyfieithiad Cymraeg, gan Siân Northey.
Wrth longyfarch Alys ar ei champ, dywedodd Andrew Webb, Pennaeth yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg:
“Mae hyn yn newyddion gwych i Alys ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol i Pigeon, sy’n nofel gyntaf wych ganddi, sydd wedi ei lleoli yn yr ardal yma. Mae Alys yn darlithio ar ein rhaglen Ysgrifennu Creadigol ac rydan ni’n gwerthfawrogi cyfraniad unigolion sy’n ysgrifennu’n greadigol eu hunain yn fawr. Mae’r gydnabyddiaeth yma’n tanlinellu pa mor eithriadol ydy gwaith Alys.”
Cynhelir y digwyddiad gan Llên Cymru ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i ddathlu’n hawduron gorau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr.”
Y beirniaid Saesneg oedd yr awdur Tyler Keevil; yr ysgolhaig Dimitra Fimi a’r bardd Jonathan Edwards. Roedd Enillydd pob Categori yn ennill £1,000 ac roedd y prif enillydd yn cael £3,000 ar ben hynny.
Stori am gyfeillgarwch plant ac am sut y daw’r cyfeillgarwch hwnnw dan fygythiad yw Pigeon. Dyma drasiedi rymus sydd ar adegau'n eithriadol ddoniol. Stori yw hon am euogrwydd, am golli iaith a cholli diniweidrwydd ac am y math o gariad all oresgyn hyn i gyd.
Mae Pigeon, wedi cael ymateb positif gan ddarllenwyr a beirniaid fel ei gilydd. Roedd yn un o 12 ar restr fer o awduron dan 40 oed ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2017. Mae gwaith Alys hefyd wedi bod ar restr fer sawl gwobr arall gan gynnwys y Bristol Short Story Prize a’r Manchester Fiction Prize.
Daw Alys yn wreiddiol o ogledd Cymru a threuliodd sawl blwyddyn yng Nghaeredin a Barcelona cyn dychwelyd i’r ardal i fyw ac i ysgrifennu. Mae hi’n siarad Sbaeneg a Chatalaneg yn rhugl yn ogystal â Chymraeg a Saesneg. Mae hi wedi datblygu sawl project i hybu ysgrifennu creadigol a darllen yng ngogledd Cymru.
Gweler hefyd: https://www.bangor.ac.uk/english/digwyddiadau/lansiad-pigeon-nofel-gan-alys-conran-27363
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017