Nofel gyntaf yn ennill gwobr a doethuriaeth
Mae nofel a ysgrifennwyd fel rhan o gwrs ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei chyhoeddi ac wedi ennill gwobr The Write Factor Shortlist Award, 2014 i’r awdur newydd, Rhian Waller.
Ysgrifennwyd nofel gyntaf Rhian, Eithe’s Way, fel rhan o ddoethuriaeth Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor.
Mae'r nofel yn dilyn taith merch ifanc sy'n dianc rhag trais yn y cartref ac yn mynd yn syth i berthynas fetaffisegol sy'n herio’r cymeriad canolog, sef Eithe, i ddarganfod ei chryfderau a chyfeiriad ei bywyd.
Yn gyfoeth o realaeth hudol, mae Eithe’s Way eisoes wedi cael clod gan feirniaid. Roedd y beirniaid yn canmol arddull bendigedig Waller a'i gallu i greu tensiwn amlwg a rhagargoel yn y naratif.
Dywedodd Lorna Howarth, un o’r golygyddion a sefydlodd The Write Factor, "Mae gan Waller ddawn aeddfed sy'n cuddio’i hieuenctid. Mae hi'n ysgrifennu gyda doethineb mawr ac mae ganddi ffordd o drin geiriau sy'n gwneud i rywun obeithio mai dyma'r gyntaf o nifer o nofelau mawrion y bydd yn eu hysgrifennu."
Dywedodd Ian Gregson, Athro a Chyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, ac awdur Not Tonight Neil (Cinnamon, 2011), "Mae dyfais 'Mirror Man' Rhian Waller yn wych ac ymysg y delweddau meta ffuglennol gorau mewn llenyddiaeth gyfoes."
Ymateb Rhian Waller i ennill y wobr oedd syndod a llawenydd. Dywedodd "Mae geiriau yn ein galluogi i neidio i fydoedd eraill ac rwyf wedi bod yn mwynhau'r broses honno ers oeddwn yn ifanc iawn. Mae Eithe’s Way wedi fy ngalluogi i greu fy myd fy hun y gall pobl eraill ymweld ag ef hefyd bellach, diolch i’r wobr hon."
Meddai Rhian, a dderbyniodd ei doethuriaeth yr wythnos hon:
"Astudiais Lenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol i’m gradd gyntaf ym Mhrifysgol Bangor. Roeddwn yn falch eu bod wedi derbyn fy nghais, gan mai Bangor oedd yr unig brifysgol yr oeddwn wedi gwneud cais iddi a oedd yn cynnig ysgrifennu creadigol fel rhan bwysig o'r radd, yn hytrach na dim ond fel modiwl dewisol. "
"Roedd fy mhwyslais ar lenyddiaeth, ar y dechrau, ond sylweddolais fy mod yn llwyr ymgolli yn rhan ysgrifennu creadigol y cwrs, yn enwedig gydag awduron fel Zoë Skoulding ac Ian Gregson yn arwain y seminarau."
Enillodd Rhian radd anrhydedd dosbarth cyntaf a Gwobr John Danby am y canlyniad gorau yn yr Ysgol Saesneg yn 2007. Wedi graddio, treuliodd amser yn teithio yn Ewrop ac yn gweithio mewn swyddi gwirfoddol ym maes ecoleg, cyn clywed am y ddoethuriaeth.
Astudiodd Rhian am ei doethuriaeth wrth hyfforddi fel newyddiadurwr, a’i chwblhau wrth weithio’n llawn-amser, er na fyddai'n argymell i eraill wneud hynny.
Mae Rhian Waller yn 29 mlwydd oed ac yn byw yn yr Wyddgrug. Er iddi gael ei geni yn Grimsby, mae wedi treulio y rhan fwyaf o’i hoes yn byw yng ngogledd Cymru. Mae hi’n ddarlithydd rhan-amser mewn sefydliad addysg bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014