Nofelau gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi eu cynnwys ar restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2011
MAE nofelau gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi eu cynnwys ar restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2011.
Mae’r deg cyfrol Gymraeg ar y rhestr hir eleni yn cynnwys Caersaint, y nofel ddoniol a phoblogaidd gan Angharad Price, a Gwenddydd, a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd i Jerry Hunter.
Mae’r ddau yn cyd-weithio ar staff Ysgol y Gymraeg ym Mangor, ond mae themâu eu nofelau yn wahanol iawn.
Ei chariad at dref Caernarfon oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel ddiweddaraf Angharad. Yn y nofel Caersaint - sef yr hen enw ar y dre – mae’n dilyn hynt a helynt y prif gymeriad, Jaman Jones, wrth iddo ddychwelyd i’r ardal yn sgîl etifeddu tŷ yn y dre.
Mae Caersaint yn cael ei disgrifio fel ‘sylwebaeth ddiefiol ar fywyd tref Gymreig ar ddechrau’r 21ain ganrif’, tra mae’r nofel Gwenddydd yn edrych ar effeithiau rhyfel ar unigolyn, teulu a chymdeithas. Mae’r nofel yn cyflwyno stori ddirdynnol am berthynas milwr o frawd a’i nyrs o chwaer, ac erchylltra’u profiadau yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd.
“Gyda rhyfel yn bla ar ein byd ni o hyd, mae rhywun yn clywed yn aml am y modd y mae Post-Traumatic Stress Disorder yn effeithio ar fywydau milwyr a chyn-filwyr,” meddai Dr Hunter, sy’n wreiddiol o Ohio yn yr Unol Daleithiau. “Wrth gwrs, nid peth newydd mohono; yn wir, roedd gan y beirdd a’r storïwyr Cymraeg canoloesol ffyrdd o drafod yr un peth.
“ Fy mwriad oedd amlygu’r wedd oesol ar y stori honno drwy’i gosod mewn cyfnod diweddar – neu ddiweddarach.”
"Pan fydd myfyrwyr yn dod i astudio Cymraeg i Fangor fe fydd yna gyfle gwych iddyn nhw gael eu dysgu gan rai o brif lenorion Cymru,” meddai’r Athro Peredur Lynch, pennaeth Ysgol y Gymraeg. “Mae nofelau diweddar Angharad Price a Jerry Hunter yn arwydd o'r bwrlwm creadigol rhyfeddol sydd yna yn Ysgol y Gymraeg ar hyn o bryd. Mae eu llwyddiant nhw hefyd yn dangos fod Bangor ar flaen y gad ym maes llenyddiaeth gyfoes."
Fe fydd yr awdur buddugol yn derbyn £10,000 gyda’r rhestr fer i’w chyhoeddi ym mis Mai- a’r enillydd i’w gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011