Noson gyda Jackie Kay MBE - nofelydd a bardd o fri
Bydd Jackie Kay, un o awduron mwyaf amryddawn gwledydd Prydain, yn ymweld â Phrifysgol Bangor ym mis Mawrth. Mae hi’n adnabyddus fel bardd, dramodydd, nofelydd, cofiannydd ac awdur storïau byrion, ac wedi cael canmoliaeth fawr am ei gwaith i oedolion ac i blant.
Bydd Jacke Kay yn darllen o ddetholiad o’i gweithiau, ac yn sgwrsio â Dr Kachi A Ozumba, awdur a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, nos Lun 4 Mawrth 2013, am 5-7pm, ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau o fewn Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb.
Defnyddir ei gweithiau mewn amrywiaeth o gyrsiau llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Saesneg, megis Llenyddiaeth Er 1945, Ysgrifennu Creadigol: Ffuglen a Llenyddiaeth Ffeithiol, Ysgrifennu Creadigol: Barddoniaeth, a Dangos a Dweud.
Wrth edrych ymlaen at y noson, dywedodd yr Athro Ian Gregson, Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Saesneg: “Mae Jackie Kay yn un o’r awduron cyfoes pwysicaf, ac yn sicr yn un o’r rhai mwyaf amryddawn ohonynt, ac rydym yn falch o’i chroesawu i Fangor. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at glywed ei chyfweliad â’n cydweithiwr Kachi Ozumba, ac at weld y modd y mae hi, wrth ddarllen, yn llywio ei ffordd rhwng y gwahanol genres y mae wedi’u defnyddio – cerddi, nofelau, storïau byrion.”
Yn ystod ei gyrfa, mae Jackie Kay wedi ennill llawer o wobrau. Mae ei gwobrau am farddoniaeth yn cynnwys Gwobr Eric Gregory, Gwobr Llyfr Cyntaf y Flwyddyn yn yr Alban gan Gymdeithas Saltire, Gwobr CLPE, a Gwobr Farddoniaeth Costa (rhestr fer); a’i gwobrau am ryddiaith yn cynnwys Gwobr Ffuglen y Guardian, Gwobr Ryngwladol Lenyddol Impac, Dulyn (rhestr fer), Awdur Decibel Gwobr Llyfrau Prydain, Gwobr Genedlaethol y BBC am Stori Fer (rhestr fer), Gwobr Llyfr Albanaidd y Flwyddyn, a Gwobr PEN/Ackerley. Yn 2006, enillodd hi MBE am wasanaeth i lenyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2013