Noson gyda'r ddwy Ddraig
Bydd Cymru’n cwrdd â Tsieina am noson lawn ysbrydoliaeth o berfformio traws-ddiwylliannol wrth i gerddorion o Shanghai a Gwynedd baratoi ar gyfer cyngerdd arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Iau 1 Mai.
Bydd Sain y Ddwy Ddraig: Deialog Cerddorol Cymreig a Tsieineaidd, a gyflwynir gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ac Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, yn dod â cherddorion Tsieineaidd a Chymreig at ei gilydd mewn cyngerdd unigryw yn Neuadd Powis.
Arweinir y cyngerdd gan yr Athro Technoleg Cerddoriaeth Shen Lin, a’r gantores Xian Zhao (y ddau o Brifysgol Normal Shanghai), yn cyflwyno perfformiad swynol, yn cyfuno caneuon Tsieineaidd traddodiadol â synthesis electronig ar leisiau.
Yn ymuno â hwy mewn perfformiadau ar wahân bydd y delynores a'r gantores adnabyddus, Gwenan Gibbard, sy’n arbenigo yn hen gelfyddyd Gymreig Cerdd Dant, a’r Athro Andrew Lewis o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, a fydd yn perfformio ei gyfansoddiad electroacwstig Cân; portread seiniol o Gymru, ei phobl, ei hiaith, ei thirwedd a’i diwylliant.
Meddai llefarydd o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor:
"Mae hyrwyddo cyfnewid diwylliannol rhwng Tsiena a Gogledd Cymru'n hanfodol i'n gwaith yma ym Mangor, a thrwy ddigwyddiadau fel y rhain y gallwn ddechrau edrych ar ddiwylliannau cyfoethog ein dwy wlad a'u cymharu.
Mae'r cyngerdd yma'n gyfle rhyfeddol i ddathlu cyfarfyddiad y Ddwy Ddraig - yr un Tsieineaidd a'r un Gymreig - ac rydym yn hynod falch o gael y cerddorion hyn at ei gilydd i gymryd rhan mewn noson fydd yn sicr yn un gofiadwy iawn."
Caiff y cyngerdd, sy'n rhan o Ŵyl Cerddoriaeth Ryngwladol yn Theatr Fawr Shanghai (cyflwynir gan Hantang), ei gynnal yn Neuadd Powis ym Mhrifysgol Bangor ddydd Iau 1 Mai, 6-8pm. Gellir prynu tocynnau wrth y drws: £10 pris llawn / £3 myfyrwyr / dan 16 oed am ddim.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2014