Noson i ddathlu agor neuadd JMJ yn ei gartref newydd
Bu staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu agoriad Neuadd John Morris Jones yn ddiweddar.
Ar nos Lun, Mawrth 12fed fe agorodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro John G. Hughes, y neuadd ar ei newydd wedd yn swyddogol a bu’r gantores Meinir Gwilym, un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, a chôr aelwyd JMJ yn perfformio rhai caneuon.
Dywedodd Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned: “Mae profiad myfyrwyr wrth galon holl strategaethau’r Brifysgol, ac mae’r datblygiad hwn yn sicrhau y bydd profiad myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr y Gymraeg yn cael ei gyfoethogi’n fawr. Fel prif ddarparwr addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n gwbl briodol fod y Brifysgol yn cynnig llety o’r ansawdd gorau i gyd-fynd â’r ddarpariaeth eang o fodiwlau a chyrsiau yr ydym yn eu cynnig drwy’r Gymraeg”.
Dywedoedd Mair Rowlands, Llywydd UMCB: “Mae neuadd JMJ yn bodoli er lles y Gymraeg ac i alluogi ein myfyrwyr i fyw a bod trwy gyfrwng yr iaith. Mae’r awyrgylch sydd yn y neuadd yn amhrisiadwy ac mae’r estyniad newydd yn mynd i sicrhau parhad yr awyrgylch yma. Rwy’n hyderus hefyd y bydd y neuadd ar ei newydd wedd yn denu mwy o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i Fangor.”
Dywedodd Eurgain Ebrill Owen, Llywydd Neuadd JMJ: “Mae’r myfyrwyr sy’n byw yn JMJ ar hyn o bryd wrth eu bodd gyda’r estyniad ac wedi gwneud defnydd da ohono’n barod!”
Bu ymgynghori efo’r myfyrwyr drwy gydol y cynlluniau i symud y neuadd Gymraeg o Ffordd y Coleg i safle'r Ffriddoedd. fel rhan o'r broses ymgynghori, cytunod dy Brifysgol i adeiladu cyswllt rhwng adeiladau Tegfan a Bryn Dinas, er mwyn creu un Neuadd. Wrth greu’r cyswllt, mae’r gofod cymdeithasol wedi’i helaethu yn sylweddol gan roi'r cyfle i’r preswylwyr greu’r un ymdeimlad o gymuned ag oedd yn bodoli yn yr hen JMJ.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012