Nyrs ‘Gofalgar’ yn Ysbyty Gwynedd wedi helpu wyres i ffarwelio â’i thaid am y tro olaf drwy alwad ffôn rhithiol
Mae myfyriwr nyrsio wedi cael ei chanmol am ei gofal a’i thosturi ar ôl iddi drefnu galwad ffôn rhithiol i ganiatáu i wyres ffarwelio â’i thaid.
Aeth John Jenkins, o Lanerchymedd ar Ynys Môn yn sâl yn fuan ar ôl ei ben-blwydd yn 94 oed tuag at ddiwedd mis Rhagfyr.
Yn anffodus cafodd ddiagnosis o COVID-19 ac roedd yn cael gofal ar Ward Aran yn Ysbyty Gwynedd.
Cafodd ei deulu'r newyddion erchyll ei fod yn annhebygol y byddai’n gwella o’i salwch, ond oherwydd y cyfyngiadau ar ymweliadau yn yr ysbyty, nid oeddent yn gallu ymweld ag ef i ffarwelio ag ef.
Dywedodd ei wyres, Rachel Hatt, fod ei theulu wedi’u llorio gyda’r newyddion y byddai’n annhebygol y byddai ei thaid yn gwella o’r clefyd.
Dywedodd: “Mae’n anodd iawn i deuluoedd sydd ag anwyliaid yn yr ysbyty ar hyn o bryd gan nad oes modd i neb ymweld â nhw fel y byddai fel arfer, sy’n ddealladwy gan ein bod yn gwybod bod y mesurau ar waith i gadw pawb yn ddiogel.
“Roeddem yn gwybod nad oedd fy nhaid am wella ond roeddwn wir eisiau ei weld a siarad ag ef.
“Fe wnes drio ei ffonio i weld pe byddai’n ateb a phan gysylltodd y ffôn clywais lais hyfryd ar yr ochr arall.”
Roedd myfyriwr nyrsio o Brifysgol Bangor, Abby Smith, a ymunodd â Ward Aran ar leoliad ar 30 Rhagfyr 2020 wedi ateb ffôn John.
Ar ôl rhoi diweddariad ar ofal John, awgrymodd Abby y byddai’n trefnu galwad fideo fel y gall Rachel weld ei thaid.
“Cefais fy syfrdanu gan ei natur gyfeillgar ac fe ddisgrifiodd i mi’n union beth oedd yn digwydd i fy nhaid ac eglurodd ei fod ar fin cael tawelydd.
“Fe eglurodd y driniaeth ac yna’n sydyn fe drodd y ffôn a chefais fy sgwrs olaf gydag ef.
“Gwelais yn amlwg y cariad a’r gofal roedd Abby a’r staff yn ei roi i fy Nhaid ac fe dawelodd fy meddwl ei fod yn y dwylo gorau ac nid oedd ar ei ben ei hun.
“Ni allaf ddiolch ddigon i Abby am yr hyn a wnaeth hi'r diwrnod hwnnw, cymerodd amser o’i diwrnod prysur i ateb y ffôn, nid oedd yn rhaid iddi o gwbl, rwy’n gwybod mae’n siŵr ei bod yn brysur iawn.
“Byddwn yn ddiolchgar iawn iddi am byth am drefnu’r alwad er mwyn i mi allu gweld fy nhaid am y tro olaf,” ychwanegodd Rachel.
Bu farw John y noson honno, ar 26 Ionawr, ychydig oriau ar ôl ei alwad fideo gyda’i wyres.
Mae Abby, a ddechreuodd ei gradd Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor yn 2019, yn awr ar ei hail flwyddyn, ac mae hi hefyd yn Ymatebwr Cyntaf Cymunedol gwirfoddol ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Dywedodd: “Mae geiriau Rachel wedi fy llorio ac fe fyddaf yn eu cofio am byth.
“Nid yw bod yn fyfyriwr yn yr adeg anodd hon heb ei heriau, ond mae Rachel wedi gwneud i ni weld yn union pam y gwnaethom ddewis yr yrfa hon.
“Nid yw Aran yn wahanol i ward arall rwyf wedi bod arni. Mae'n gweithredu’n gyflym, yn flinedig yn gorfforol ac yn emosiynol ond mae'r staff yn rhai o'r bobl fwyaf anhygoel i mi eu cyfarfod erioed
“Mae lefel y gofal a thosturi y maen nhw’n ei ddangos i bob claf bob dydd heb ei ail.
“Dim ond cipolwg yw’r stori hon ar yr hyn y mae’r aelodau staff hyn wedi bod yn ei wneud am flwyddyn, ac rwy’n teimlo’n wirioneddol freintiedig fy mod wedi gallu gweithio ochr yn ochr â nhw.”
Dywedodd Lesley Walsh, Cyfarwyddwr Nyrsio yn Ysbyty Gwynedd, fod y nyrsys wedi mynd gam ychwanegol yn eu rolau yn ystod y pandemig i sicrhau bod cyswllt cyson rhwng cleifion a’u teuluoedd.
Dywedodd: “Yn y flwyddyn ddiwethaf mae’r pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddigynsail arnom ni i gyd, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n nyrsys medrus sydd wedi mynd gam ychwanegol i’n cleifion a’u teuluoedd.
“Mae eu gwaith caled, ymrwymiad ac ymroddiad wedi’n helpu drwy’r adeg eithriadol hon.
“Mae ein myfyrwyr nyrsio, fel Abby wedi camu i’r adwy i gefnogi eu cydweithwyr nyrsio a darparu gofal o’r radd flaenaf i’w cleifion.”
Ychwanegodd Lynne Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor: “Rydym ni mor falch o’r tosturi a’r ymrwymiad i gefnogi cleifion a’u teuluoedd a ddangosir gan ein holl fyfyrwyr sydd wedi cyfrannu at y gweithlu iechyd yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Dangosodd Abby yr elfen gofal, caredigrwydd a thosturi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r elfennau sy’n cael eu pwysleisio drwy gydol rhaglen gradd nyrsio Bangor ac rwy’n falch bod y gwerthfawrogiad wedi rhoi egni newydd iddi. Ni allwn ond ychwanegu ein diolch ein hunain i Abby a'n holl fyfyrwyr gwych.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2021