O ble ddaeth y syniad o gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod?
Mae’r syniad o "gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod" yn cael sylw cynyddol erbyn hyn wrth i wledydd fel Sweden geisio symud oddi wrth arian papur a darnau arian ond yn y DU methodd y banciau â chael gwared â sieciau papur. Mewn Papur Gwaith gan Ysgol Busnes Bangor, mae Bernardo Bátiz-Lazo, o’r Ysgol Busnes, ynghyd â Thomas Haigh o Brifysgol Wisconsin, Milwaukee; The Haigh Group a David Stearns, o Brifysgol Seattle Pacific yn cofnodi bod y syniad o beidio â defnyddio arian parod wedi dechrau’n wreiddiol ym myd busnes ac wedi symud yn ddiweddarach i fyd ffuglen.
Eglurodd Bernardo Bátiz-Lazo, Athro Hanes Busnes a Rheolaeth Banciau: “Er y gallwn olrhain tarddiad y syniad yn ôl i Ffrainc yn y 19 ganrif, mae syniadau modern o gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod yn mynd yn ôl i ddefnyddio’r cyfrifiaduron cyntaf ym myd busnes.”
“Mae’r gymdeithas heb arian parod a ddarluniwyd yn y 1950au yn nes erbyn hyn, ond mae’n dal ymhell o fod yn realiti. Yn ein hymchwil rydym yn dadlau bod economi heb arian parod yn weledigaeth sy’n gyrru newid technolegol na chaiff fyth ei gwireddu.”
“Y prif reswm y gwnaethom yr ymchwil hwn oedd helpu i gyfeirio polisïau yn ogystal â’r cyfryngau gan eu bod yn gwestiynau pwysig iawn sydd heb eu hateb hyd yma, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r ystyriaethau am y pwnc yn cael eu cyflwyno mewn ffordd gytbwys. Yn hytrach mae erthyglau newyddion y brif ffrwd yn tueddu i fod yn ddilornus o arian parod a dweud pa mor wych yw arian cyfredol digidol, taliadau symudol, cardiau digyswllt ac ati. Mae ein papur yn gosod y cyd-destun."
Mae’r papur llawn ar gael yma.
Ac mae’n cael sylw’r wasg yn Blomberg.com yma.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2012