O ffilmio'r Gymdeithas Ddawns Myfyrwyr i weithio gyda Dr Who ....
Mae enillydd gwobr BAFTA sydd erbyn hyn yn rhedeg ei gwmni ffilm ei hun yn llawn canmoliaeth i Brifysgol Bangor am y gefnogaeth a'r anogaeth a gafodd wrth astudio yma.
Mae Osian Williams, 22 oed o Bontypridd, eisoes yn gwneud enw iddo’i hun fel gwneuthurwr ffilm annibynnol, wedi iddo ennill gwobr BAFTA Cymru* wrth astudio yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
Dechreuodd Osian gwmni SSP Media yn ystod ei gyfnod ym Mangor. Cwblhaodd raddau israddedig ac ôl-radd yma a bellach mae’n dathlu agoriad swyddfa gyntaf y cwmni ym Mharc Busnes Caerffili.
Mae'r cwmni'n darparu cynnwys proffesiynol yn y cyfryngau ar gyfer gwahanol gwmnïau a sefydliadau, yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni dogfen, ffilmiau ffuglen byr a rhaglenni dogfen radio gyda phartneriaid ar draws y DU. Mae Osian wedi gweithio gyda'r BBC ac S4C ac ar hyn o bryd mae’n sefydlu rhwydweithiau yn Ewrop ac America ar gyfer projectau yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae'n amlwg bod ei amser fel myfyriwr Astudiaethau Creadigol ym Mangor wedi helpu i lunio ei ddyfodol, ac wedi ei roi ar ben ffordd i sefydlu busnes ei hun.
Meddai Osian, "Mae'n 100% yn wir na fyddwn i wedi cyflawni cymaint â sefydlu cwmni fy hun heb Brifysgol Bangor.
“Bwrsariaeth gan y Brifysgol galluogodd i mi brynu fy nghamera cyntaf a dyma sut wnes i sylweddoli fy mod i eisiau canolbwyntio ar ffilm.
“Roedd astudio yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau yn golygu cefais gefnogaeth ac amser i dyfu, a bu’r staff yn hynod o gefnogol ac ysbrydoledig. Mae gen i gymaint o barch tuag atynt fel pobl sydd wedi gweithio yn y cyfryngau ac maent wedi helpu i fi wneud cysylltiadau, archwilio syniadau a chymhwyso’r hyn a ddysgais mewn amgylchedd proffesiynol.”
Ychwanegodd Osian, “Roeddwn yn gwerthfawrogi ‘mod i’n gallu troi atynt am gyngor ac ail farn, yn enwedig yn nyddiau cynnar SSP Media ac wrth ddatblygu syniadau ar gyfer ffilm. Roedd hyn yn hwb i mi fynd amdani o ran gweithio i fy hun a rhedeg busnes.
“Pan gychwynnais SSP Media un o’n cleientiaid mwyaf oedd Cymdeithas Ddawns Myfyrwyr Bangor – a nawr rydym yn gweithio gyda Dr Who!”
*Enillodd Osian Wobr BAFTA am ei ffilm fer Can i Emrys, cynhyrchodd yn ystod ei drydedd flwyddyn ym Mangor. Enillodd y Wobr yn y categori ffilm ffuglen fer. Roedd y rhaglen ddogfen tri munud yn dangos effaith cerddoriaeth ar breswyliwr 93 mlwydd oed mewn cartref gofal yng Ngogledd Cymru. Cafodd Osian ei gomisiynu i gynhyrchu'r ffilm ar gyfer y preswyliad artistig cyntaf a drefnwyd gan broject Pontio Prifysgol Bangor. Yna cafodd y ffilm ei gomisiynu i'w ddarlledu gan S4C a ddangosir fel rhan o'u cyfres Calon Cenedl.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2015