O Mumbai i Barc Gwyddoniaeth Menai
Mae myfyrwyr rhyngwladol o Brifysgol Bangor, Nebu George, wedi cael ei benodi'n intern archaeoleg Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf. Derbyniwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn ddiweddar ar gyfer M-SPARC, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen ar Ynys Môn, ac mae'r arolwg archeolegol yn rhan o'r amodau ar gyfer caniatâd cynllunio llawn.
Nod y prosiect, a fydd yn derbyn cyllid o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yw creu economi clwstwr unigryw i annog diwydiant uwch-dechnoleg a phartneriaethau ymchwil gwyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru. Hefyd mae’r prosiect yn gwneud cais am gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Yn wreiddiol o Mumbai, India, mae Nebu, 26, yn ei 2il flwyddyn o radd BA (Anrh.) Archaeoleg a chafodd ei ddewis fel rhan o Gynllun Interniaeth Israddedig Prifysgol Bangor, a weinyddir gan y tîm Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB), Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Fel rhan o'i 150-oriau o waith, prif dasgau Nebu fydd cwblhau arolwg ffotograffig o'r adeiladau presennol ar y safle, yn ogystal â chwarae rhan fel aelod o'r tîm a fydd yn cynnal astudiaethau archeolegol ar y safle.
Dywedodd Nebu George, "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weithio ar y prosiect. Un o'r rhesymau dewisais astudio ym Mhrifysgol Bangor oedd y cyfoeth o safleoedd archeolegol gerllaw. Mae'r prosiect hwn yn wahanol iawn i'r gloddfa arferol a gallwch ddarllen yr holl lyfrau yn y byd, ond nid oes unrhyw beth i gymharu â phrofiad ymarferol o archaeoleg ar waith."
Dywedodd cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones, "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Nebu ar yr arolwg archeolegol gan fod ei waith yn cyfrannu at ddatblygiad y parc."
Mae gweledigaeth M-SParc ar gyfer cyfnod o 30 mlynedd yn seiliedig ar greu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor hyfedr i bobl leol, gan ddatblygu amgylchedd o rannu gwybodaeth a chreu canolbwynt economaidd mewn sectorau megis carbon isel, ynni a’r amgylchedd a TGCh. Byddai’r parc gwyddoniaeth yn creu pont rhwng cwmnïau o’r fath a Phrifysgol Bangor, sef perchnogion M-SParc.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2015