Osian yn Ennill cadair Eisteddfod yr Urdd
Enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd yw myfyriwr Prifysgol Bangor, Osian Owen.
Mae’n un o gyn-ddisgyblion balch Ysgol y Felinheli, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon ac Ysgol Glanaethwy. Erbyn hyn mae ar ei drydedd flwyddyn yn Ysgol y Gymraeg ac yn gobeithio graddio fis Gorffennaf, a dilyn cwrs meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o fis Medi ymlaen.
Yn eu beirniadaeth meddai’r beirniaid, Gruffudd Antur a Mari Lisa:
“Ymwneud â pherthynas y mae AFALLON, a’r modd y mae’r berthynas honno yn esgyn a disgyn megis mynydd. Dilyniant o bum cerdd sydd ganddo, a dyma fardd a lwyddodd i fynegi’i hun, a’n cyffwrdd, yn effeithiol mewn delweddau a chyffelybiaethau.
“Mae yma hogan yn ‘lordio strydoedd dinas’ ac yn peintio’i phalmentydd yn ‘driog melyn’. Ar ôl i’r bardd ei chael, a’i cholli, mae ‘edefynnau ei gwallt’ yn glynu ‘fel staen gwin goch i ddillad a chlustogau’. Mae’r bardd wedi codi’r ferch uwchlaw popeth arall, ond maes o law mae’r cerflun dychmygol hwnnw’n cael ei chwalu a ‘chlecs tafarn yn stremps o gachu gwylan drosto’. Byw’n feddw i ddoe y mae’r bardd wedyn, gan faglu drwy fywyd â ‘choesau cam babi jiraff’. Erbyn y diwedd mae’n ymddangos fod y rhod wedi troi’n llawn, a’r un yw ‘ogla rŵan’ ag ‘ogla ’stalwm’. Mae’r cynildeb hwn, a’r mymryn o amwysedd, yn cloi’r gerdd drawiadol hon mewn ffordd gwbl briodol.”
Dywedodd Osian ei fod yn falch o fod wedi cael bod o dan adain rhai o lenorion gorau Cymru yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, ac ar hyn o bryd mae’n mynychu gwersi cynganeddu yn Galeri Caernarfon dan diwtoriaeth y Prifardd Rhys Iorwerth. Mae barddoni’n ddiddordeb newydd iddo, gan mai rhyddiaith yw ei ddiléit wedi bod erioed, gan gipio’r drydedd wobr yng nghystadleuaeth Coron yr Urdd llynedd.
Enillodd ei gadair gyntaf yn Nhachwedd y llynedd, a chipiodd y dwbl, y goron a’r gadair, yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan fis Mawrth eleni.
Wedi graddio nid oes ganddo’r mymryn lleiaf o syniad o’r hyn mae o eisiau ei wneud. Mae ganddo ddiddordeb byw mewn ’sgrifennu, darllen, a gwleidyddiaeth, ond mae’n byw un dydd ar y tro ar hyn o bryd!
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018