Pam ein bod ni'n cael y fath wyntoedd gwyllt a chynnes?
A oes gaeaf oer o'n blaenau?
Tra bo'r tywydd wedi cynhesu dros yr ychydig ddyddiau diwethaf oherwydd gwyntoedd gorllewinol mwyn o'r Iwerydd, ceir arwyddion ymhellach i ffwrdd sy'n awgrymu efallai y byddwn yn cael gaeaf oer yng Nghymru.
Mae gwyddonwyr sy'n monitro'r tywydd yn nhrofannau'r Cefnfor Tawel wedi sylwi bod wyneb y môr wedi cynhesu sy'n arwydd cryf bod digwyddiad hinsawdd byd-eang mawr, a elwir yn "El Niño", ar fin cychwyn.
Mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd bob ychydig flynyddoedd, a gallant gael effaith ar yr hinsawdd yn fyd-eang. Er enghraifft, roedd digwyddiad El Niño yn cyd-daro â'r gaeaf oer iawn a gawsom yn y Deyrnas Unedig yn 2009-2010.
Wrth sôn am hyn, dywedodd yr Athro Tom Rippeth, sy'n feteorolegydd:
"Bellach mae'n ymddangos yn debygol iawn ein bod ar gychwyn digwyddiad El Niño. Mae ymchwil gan y Swyddfa Dywydd wedi dangos bod digwyddiadau El Niño yn un ffactor sy'n gallu arwain at fwy o risg y byddwn yn cael gaeafau oerach na'r hyn sy'n arferol yma yn y Deyrnas Unedig. Ond mae astudiaethau a gafodd eu cynnal yn ystod gaeafau El Niño blaenorol wedi dangos ei bod yn bosibl y bydd y tywydd oer yn cael ei gyfyngu i gyfandir Ewrop, tra bod y Deyrnas Unedig yn parhau dan ddylanwad gwyntoedd gorllewinol mwynach o'r Iwerydd."
"Hefyd, dim ond un ffactor sy'n dylanwadu ar ein tywydd yn y gaeaf yw El Niño. Cafodd y tywydd gwael a gawsom dros y gaeaf y llynedd, y rhoddwyd y llysenw "Y Dihiryn o'r Dwyrain" iddo, ei briodoli i aflonyddwch atmosfferig dros yr Arctig."
"Er y byddwn i'n dweud, o ystyried pob dim, y byddwn ni'n cael gaeaf oerach nag arfer, mae'n annhebygol iawn y bydd mor oer ag y mae rhai o'r papurau tabloid yn ei ragweld."
Mae'r Athro Rippeth yn Athro Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae'n dysgu modiwlau am y tywydd a'r hinsawdd ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n arbenig
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2018