Pam fod Saesneg yn iaith addysg yng Nghymru yn draddodiadol?
Nid canlyniad gorthrwm oedd hyn. Cafodd addysg gyfrwng Saesneg ei gweld fel ffordd o helpu’r Cymry i ddysgu Saesneg.
Dyna yw barn Simon Brooks. Bydd o’n dadlau yn ei ddarlith “Golwg Newydd ar y Llyfrau Gleision, ddoe a heddiw” fod y syniad hwn yn ddylanwadol hyd heddiw, ond yn eironig mewn broydd Cymraeg yn unig.
Mae’r Ddarlith Goffa Syr Huw Owen yn digwydd am 6.30 yh ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor nos Iau 20 Tachwedd. Mae ar agor i bawb.
Dywedodd Simon Brooks:
“Rwyf eisiau ateb cwestiwn anodd. Pam fod addysg uwchradd Gymraeg ar gael ymhob man bron mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith yng Nghymru ond addysg ddwyieithog yn unig sydd ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymraeg?
“Y ‘West Merioneth question’ yw f’enw ar y broblem hon, ar ôl y ‘Welsh Lothian question’ enwog mae rhai yn honni nad oes modd ei ateb.
“Mae’r rhesymau yn ddiwylliannol yn hytrach nag addysgol, ac mae eu gwreiddiau yn Oes Fictoria.
“Mae mwy o sensitifrwydd mewn ardaloedd Cymraeg nag ardaloedd Saesneg o ran gallu plant mewn Saesneg.
“Fodd bynnag, ychydig iawn o dystiolaeth sy’n bodoli y byddai addysg gyflawn Gymraeg yn rhwystro dysgu Saesneg yn effeithiol.
“Dylem archwilio ffyrdd amgen o wella perfformiad mewn Saesneg, megis cefnogaeth ychwanegol i Saesneg fel pwnc.”
Arbenigwr yn hanes a llên y cyfnod modern yw Dr Simon Brooks. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y bedwaredd ganrif ar bymtheg, addysg trwy gyfrwng ieithoedd llai, syniadaeth wleidyddol a chynllunio ieithyddol, themâu y bydd yn troi atynt yn Narlith Goffa Syr Hugh Owen eleni. Yn awdur nifer o gyfrolau, bydd llyfr newydd o’i eiddo, Pam na fu Cymru, yn ymddangos y flwyddyn nesaf. Mae hefyd yn cwblhau astudiaeth o leiafrifoedd ethnig yn y diwylliant Cymraeg ei iaith, Hanes Cymry.
http://www.bangor.ac.uk/news/digwyddiadau/darlith-goffa-syr-hugh-owen-20398
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014