‘Panto 5 munud’ yn dod yn ôl i Stryd Fawr Bangor.
Mae’n bleser gan Bontio ac adran Ddiwydiannau Creadigol Prifysgol Bangor gyhoeddi y bydd ‘Panto 5 munud’ yn dychwelyd i Ganolfan Siopa Deiniol ar Stryd Fawr Bangor, ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr i gyd-fynd â dathliadau Nadolig y ddinas.
Y llynedd, bu myfyrwyr theatr o Brifysgol Bangor yn perfformio fersiwn mud o’r stori bantomeim glasurol Sinderela mewn ffenestri siopau wedi cau yng Nghanolfan Deiniol. Oherwydd y llwyddiant a gafodd y digwyddiad, mae’r myfyrwyr wedi cael gwahoddiad i berfformio eto eleni.
Eleni, bydd myfyrwyr Prifysgol Bangor yn perfformio hanes Aladin, ond gyda blas y Nadolig ar y stori! Pan mae Aladin yn colli ei genie, mae’n cynnal clyweliadau i ddod o hyd i un addas i gymryd ei le, ond a fydd yn llwyddo i ddod o hyd i’w genie perffaith?
“Rwy’n falch ofnadwy bod ‘Panto 5 munud’ yn dychwelyd i Stryd Fawr Bangor" meddai Dyfan Roberts, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau, Pontio. “Dyma beth yw pwrpas Pontio, dod â digwyddiadau fel hyn i ganol y ddinas a rhoi cyfle i actorion ifanc ddangos eu doniau. Rwy’n mawr obeithio y bydd y digwyddiad yn draddodiad am flynyddoedd i ddod”.
Mae Kathryn Cooke, sy’n fyfyrwraig theatr ac yn un o berfformwyr "Panto 5 munud" eleni, o'r un farn. “Ar ôl llwyddiant y llynedd, mae’n wych dod yn ôl gyda’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr theatr” meddai Kathryn “mae’n ddarn difyr iawn sy’n llawn o hwyl y Nadolig, ac rydym yn gobeithio y bydd siopwyr yn mwynhau’r arddangosfa newydd yn y ffenestri!”
Ychwanegodd Kate Lawrence, darlithydd yn Ysgol y Diwydiannau Creadigol a’r Cyfryngau, sydd wedi bod yn paratoi’r perfformiad gyda’r myfyrwyr:
“Rwy’n meddwl ei fod yn wych ein bod yn gallu defnyddio siopau gweigion ar y Stryd Fawr i gynnal digwyddiadau fel hyn. Rwy’n erfyn ar fwy o bobl i wneud defnydd o’r cyfleusterau hyn mewn ffordd ddychmygus a chreadigol tebyg i'r ‘Panto 5 munud’."
Cynhelir y ‘Panto 5 munud’ eleni yng Nghanolfan Siopa Deiniol, gan ddechrau am 2 o’r gloch y prynhawn. Wedi hynny, caiff y panto ei berfformio pob hanner awr, ar yr awr ac ar yr hanner awr, tan 5 o’r gloch.
Cysylltwch â Dyfan Roberts i gael rhagor o wybodaeth: 01248 382121 – dyfan.roberts@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2010