Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yn ennill gwobr Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd
Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yw enillydd cystadleuaeth a drefnwyd gan y Project Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol Bangor. Roedd nifer o fusnesau wedi llenwi arolwg gan y project ac enw'r Gelli Gyffwrdd ddaeth o'r het i ennill y wobr, sef basged yn llawn o gynnyrch Cymreig hyfryd gan y cwmni anrhegion, Bodlon. Diben yr ymchwil oedd darganfod pa fath yn union o hyfforddiant y mae ar fusnesau ei angen er mwyn elwa ar ddulliau busnes gwyrddach.
Cafwyd ymateb gan ystod o fusnesau ar draws Gogledd Cymru, a’r prif geisiadau oedd am gefnogaeth ac arweiniad ar farchnata nwyddau neu wasanaethau gwyrdd, a sut i fesur carbon mewn busnesau.
Meddai Stuart Bond, Rheolwr y Project:
“Mae’n allweddol i’n llwyddiant ein bod yn darparu’r hyfforddiant y mae ar fusnesau ei angen mewn gwirionedd er mwyn elwa ar yr economi werdd, gan sicrhau bod eu hanghenion yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud. Mae’r arolwg yma wedi ein helpu i gael y wybodaeth roeddem ei hangen, a hynny’n uniongyrchol gan gymuned fusnes Gogledd Cymru, a bydd yn rhan allweddol o’n rhaglen hyfforddi am y ddwy flynedd nesaf.”
Mae Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd wedi derbyn llawer o wobrau, ym maes twristiaeth a’r amgylchedd, ac yn fwyaf diweddar daeth i’r brig mewn arolwg fel yr atyniad gorau i deuluoedd yng Ngogledd Cymru.
Meddai Stephen Bristow, Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd:
“Bob blwyddyn rydym yn gwneud ymdrechion cyson i leihau’r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd ac i hybu’r cadarnhaol, ond mae yna fwy i’w ddysgu bob amser. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd, i rannu ein llwyddiannau gyda busnesau eraill a hefyd i ddysgu oddi wrth eraill sut i fod yn fwy cynaliadwy hyd yn oed."
Mae’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn un o brojectau Technolegau Arloesi Gwyrdd y Dyfodol, a’i nod yw bod o fudd i fusnesau a helpu i ddatblygu Economi Werdd drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi a phrojectau cydweithredol â busnesau. Mae’n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, University College Dublin a'r Waterford Institute of Technology ac fe’i cyllidir yn rhannol drwy’r Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy’r Rhaglen Iwerddon/Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am GIFT a digwyddiadau i ddod, ewch i’w gwefan neu ffonio 01248 388387.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012