Parc Gwyddoniaeth yn Cysylltu â'r Gymuned
Mae cynllun cyffrous i ddatblygu Parc Gwyddoniaeth ar gyrion Gaerwen yn dod yn ei flaen yn dda. Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn y pentref i sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan ac yn llwyr ymwybodol o'r project.
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai, sy’n is-gwmni i Brifysgol Bangor, yn gartref i fusnesau a sefydliadau arloesol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth ac sy'n awyddus i ffynnu mewn amrywiol sectorau. Bydd y Parc yn elwa o fuddsoddiadau mewn sectorau megis ynni, gwasanaethau amgylcheddol a thechnoleg lân, ond fe groesawir projectau mewn sectorau eraill hefyd. Y nod yw creu a chefnogi swyddi o safon uchel a chyflogau da yn yr ardal.
Bydd rhaglenni allgymorth yn cael eu rhedeg i annog diddordeb plant a phobl ifanc mewn pynciau gwyddonol ac i ddangos pa swyddi gwyddonol sydd ar gael yn y rhanbarth.
"Mae'r project yn llawer mwy nag adeilad" meddai Ieuan Wyn Jones, cyfarwyddwr y Project, "mae'n ymwneud â chefnogi projectau sy’n gallu creu swyddi cynaliadwy o safon uchel i bobl ifanc y rhanbarth."
Mae'r tîm project yn awyddus i rannu gwybodaeth am y syniad ac i gasglu sylwadau gan y gymuned. Bydd diwrnod gwybodaeth yn cael ei gynnal yn yr orsaf betrol ar safle Stermat yng Ngaerwen 15:00-19:00 ar 1af o Orffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014