Parhau i fuddsoddi yn y profiad a gaiff myfyrwyr
Mae cyfleusterau chwaraeon newydd a Chanolfan newydd gyffrous i'r Celfyddydau ac Arloesi ymysg y datblygiadau niferus sydd ar y gweill i gyfoethogi ymhellach y profiad a gaiff myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Mae rhai o'r newidiadau hyn i'w gweld eisoes yn datblygu ar y campws. Mae adeilad Pontio - canolfan newydd i'r celfyddydau yn y Brifysgol - yn tyfu'n gyflym. Disgwylir i'r ganolfan hon, sydd wedi costio dros £40m, agor ym mis Hydref 2014.
Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar raglen fuddsoddi o bwys i wella cyfleusterau yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol. Cafodd y cam cyntaf - sef creu i roi cyfleusterau tenis a phêl rwyd dan do newydd - ei agor yn swyddogol y mis diwethaf gan yr Arglwydd Coe, cadeirydd pwyllgor trefnu Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Bydd gwaith yn awr yn parhau ar yr ail gam pryd y caiff y Ganolfan Chwaraeon ei hailgyflunio a'i hadnewyddu'n llwyr i greu cyfleusterau megis campfa newydd ar ddau lawr, stiwdio erobigs benodol a mannau newid gwell.
Meddai Is-ganghellor Bangor, yr Athro John G. Hughes, adeg agor y Dôm Chwaraeon: "Rydym yn hynod falch o gael ffigwr mor amlwg o'r byd chwaraeon â'r Arglwydd Coe yn ymweld â ni i agor y cyfleuster newydd yma. Yn ddiweddar mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnau'n datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i'n myfyrwyr, gan ei wneud yn lle mwy deniadol fyth i astudio ynddo."
Mae datblygiadau eraill fel rhan o'r canolbwyntio ar gyfoethogi'r profiad i fyfyrwyr yn cynnwys:
- Aelodaeth am ddim o glybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn galluogi myfyrwyr i ymuno am ddim â holl glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr gan sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu manteisio ar y cyfoeth o gyfleoedd allgwricwlaidd sydd ar gael.
- Cynyddu nifer ac ystod y cyfleoedd i fyfyrwyr i ennill sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy trwy leoliadau gwaith, interniaethau, gwirfoddoli, a datblygu sgiliau menter ac entrepreneuriaeth, yn ogystal â chyflwyno Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (BEA), sy'n ddatblygiad arloesol yn y sector.
- Opsiwn newydd astudio dramor i roi'r profiad rhyngwladol i fyfyrwyr y mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdano erbyn hyn. Mae'r Rhaglen Profiad Rhyngwladol yn rhoi dewis i fyfyrwyr astudio dramor am flwyddyn ychwanegol mewn amrywiaeth eang o fannau.
- Buddsoddi ychwanegol yn y gwasanaethau llyfrgell i helpu i gefnogi myfyrwyr gyda'u hastudiaethau, yn cynnwys oriau agor 24/7 ar y prif safleoedd.
- Canolfan Sgiliau Astudio, sy'n rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr newydd wrth iddynt ddechrau yn y brifysgol, yn ogystal â chefnogaeth gyson wedyn er mwyn iddynt barhau i wneud cynnydd academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2013