Partneriaeth a chydweithio yn brif themâu yn agoriad swyddfa Prifysgol Bangor yn Beijing, Tsieina
Mae Prifysgol Bangor wedi agor yn swyddogol swyddfa yn Beijing, Tsieina. Arweiniwyd y lansio gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G Hughes. Roedd hefyd yn cynnwys anerchiadau gan Lysgennad y DU i Tseina, Sebastian Wood CMG a (CSCSE). Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng CSCSE a Phrifysgol Bangor.
Yn ei ragarweiniad, meddai’r Athro Hughes: “Erbyn hyn mae Bangor yn gyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr o Tsieina ac mae Tsieina yn cynrychioli rhan allweddol o strategaeth Bangor i recriwtio 20% o’i myfyrwyr o dramor.” Fodd bynnag, nid recriwtio ond partneriaeth oedd y thema y tu ôl i’r digwyddiad. Dangoswyd ymrwymiad Bangor i hyn drwy’r cytundeb efo CSCSE a arwyddwyd yn ystod yr un digwyddiad.
Meddai’r Athro John Hughes, “Partneriaeth yw'r ffordd ymlaen, ac nid yn unig o ran recriwtio a chyfnewid myfyrwyr ond mewn meysydd fel cydweithio ar ymchwil a sicrhau ansawdd. Mae’n rhaid cael ymddiriedaeth a gweithgareddau ar y cyd yn sail i’r partneriaethau hyn.” Aeth ymlaen i ddweud: “Yn fy marn i mae gan y sector addysg yn y DU lawer i’w ddysgu oddi wrth ein cymheiriaid yn Tsieina. Bydd y swyddfa newydd a’r Memorandwm o Ddealltwriaeth efo CSCSE yn dangos bwriad Bangor i fod yn flaenllaw gyda’r cyfnewid gwybodaeth hwn.”
Yn ei anerchiad, parhaodd y Llysgennad Wood efo’r thema partneriaeth gan ddweud, “Mae Prif Weinidogion China a’r DU yn ddiweddar wedi cadarnhau eu hymrwymiad i ‘bartneriaeth ar gyfer twf’, gyda’r naill yn cyfrannu at strategaethau datblygiad y llall.” Aeth ymlaen i drafod sut yr oedd Tsieina yn symud i’r cyfnod nesaf o ddatblygiad, bod y DU mewn sefyllfa dda i fod yn bartner gwerthfawr yn natblygiad sector gwasanaethau Tsieina, yn arbennig sectorau megis cyllid, busnes ac addysg. Gorffennodd drwy longyfarch Bangor ar sefydlu swyddfa Beijing gan ddweud: “Rwy’n hyderus y bydd hyn yn arwain at ymestyn perthynas Bangor efo partneriaid Tsieina, er budd pawb.”
Cyn arwyddo’r cytundeb, meddai Cyfarwyddwr Yuxiang, gan bwysleisio eto thema partneriaeth, “Mae hwn yn ddiwrnod arbennig i CSCSF a Bangor gan fod y cytundeb yn dyfnhau cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad, er budd y ddau, a darparu cyfleoedd ehangach i fyfyrwyr Tsieineaidd.”
Wrth gloi’r digwyddiad dywedodd Dr Xinyu Wu, Cyfarwyddwraig Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol, ei bod yn disgwyl y byddai’r math yma o ddigwyddiad yn galluogi partneriaid i gynyddu “parch, dealltwriaeth o’i gilydd, ynghyd â chydweithrediadau a fydd o fudd i’r naill a’r llall.”
Yn bresennol hefyd roedd tîm marchnata addysg y Cyngor Prydeinig, uwch gynrychiolwyr o nifer o brifysgolion partner Prifysgol Bangor yn Beijing, yn cynnwys Prifysgol Normal Beijing, Prifysgol Gwyddor Wleidyddol a’r Gyfraith Tsieina, Prifysgol Renmin, Prifysgol Beihang, Gweinyddiaeth y Wladwriaeth ar Faterion Arbenigwyr Tramor (SAFEA) a Chanolfan Gwasanaethau Cyfnewid Ysgolheigion Tsieina, (CSCSE) a nifer o raddedigion Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2011