Partneriaid o'r Almaen a Denmarc yn ymweld â Bangor
Y mis yma rydym wedi cael y pleser o groesawu cydweithwyr o ddau o'n sefydliadau partner.
Mae’r Athro Gerhard Riemann o Brifysgol Gwyddorau Cymhwysol Georg Simon Ohm, Nuremberg, yn arbenigwr rhyngwladol ym maes ymchwil fywgraffyddol. Yn ystod ei ymweliad rhoddodd weithdy hyfforddi i staff a myfyrwyr ôl-radd ar ddefnyddio data bywgraffyddol mewn cyfweliadau ymchwil.
Mae'r Athro Riemann hefyd yn Uwch Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Yn fuan wedyn, cawsom ymweliad gan yr Athro Jacob Magnussen o Brifysgol Fetropolitan Copenhagen, a ddysgodd fyfyrwyr yr ail flwyddyn am y wladwriaeth les yn Nenmarc.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn rhannu rhaglen Erasmus gadarn o gyfnewid staff a myfyrwyr gyda phartneriaid yn Copenhagen a Nuremberg.
Mae myfyriwr trydedd flwyddyn, Erika Hayton, yn gwneud blwyddyn ryngwladol dramor yn Copenhagen ar hyn o bryd, tra bo myfyriwr o Ddenmarc, Camilla Larsen, yn astudio gyda ni'r semester yma.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016