Partneriaid yn llofnodi cytundeb y Coleg ar y cyd cyntaf rhwng Cymru a Tsieina
Mae Prifysgol Bangor a'r Central South University of Forestry and Technology (CSUFT) yn Tsieina yn dathlu'r cynllun ar y cyd cyntaf rhwng Cymru a Tsiena i sefydlu Coleg newydd yn Tsieina. Cafwyd seremoni i lofnodi'r cytundeb ym Mhrifysgol Bangor ac yn bresennol roedd Mr David Jones, AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Mr LI Guoqiang, Prif Ysgrifennydd Adran Addysg Llysgenhadaeth Tsieina ym Mhrydain.
Yn y cynllun newydd cyffrous hwn, mae'r ddau sefydliad yn creu coleg rhyngwladol - 'Coleg Bangor' - a fydd yn cyflwyno cyrsiau yn ninas Changsha, sy'n gartref i 8 miliwn o bobl ac yn brifddinas talaith Hunan.
Wedi dros dair blynedd o waith caled, cafodd cais y ddwy Brifysgol i sefydlu coleg rhyngwladol ar y cyd ei gymeradwyo gan Weinyddiaeth Addysg Tsieina yn Rhagfyr 2013 - dim ond un o ddau gais a gymeradwywyd ym Mhrydain y flwyddyn honno.
Wrth groesawu'r cytundeb newydd yn y cyfarfod lansio ym Mhrifysgol Bangor ar 27 Mai, meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
"Mae hwn yn gytundeb hanesyddol i'r ddau sefydliad. Mae'n dod ag ansawdd ragorol addysg uwch a ddarperir gan Brifysgol Bangor yn nes at fyfyrwyr yn Tsieina ac ar y llaw arall mae'n rhoi cyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr ac academyddion Bangor i brofi addysg a syniadau yn Tsieina."
Meddai Xianyan Zhou, Llywydd CSUFT: “Mae sefydliad y coleg ar y cyd yn adlewyrchiad o’r cyd-weithio llwyddiannus sydd wedi bod rhwng y ddau sefydliad dros y pedair blynedd olaf, a’r pwysigrwydd cynyddol sydd wedi bod mewn rhyngwladoli addysg yn y Central South University of Forestry & Technology.”
Bydd Coleg Bangor yn Tsieina yn agor ei ddrysau i 200 o fyfyrwyr Tsieineaidd fis Medi eleni. I ddechrau bydd y Coleg yn cynnig rhaglenni israddedig mewn cyfrifeg, bancio, cyllid a pheirianneg electronig, gyda chynlluniau i ehangu ystod y pynciau i gynnwys meysydd academaidd eraill y mae Prifysgol Bangor yn rhagori ynddynt, megis Coedwigaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol, ymhen ychydig flynyddoedd.
Caiff yr holl raglenni eu dysgu a'u hasesu yn Saesneg a byddant yn rhoi profiad addysg uwch tebyg i'r hyn a geir yng ngwledydd Prydain i'r myfyrwyr. Staff profiadol o Brifysgol Bangor fydd yn gwneud y gwaith dysgu, yn ogystal â staff rhyngwladol gyda chymwysterau uchel sydd newydd eu penodi. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i astudio ym Mhrifysgol Bangor am flwyddyn neu ddwy. Gallant hefyd wneud y rhaglen gyfan yn Tsieina os dymunant.
Ymhen ychydig flynyddoedd bydd y Coleg yn ehangu i addysgu 2,000 o fyfyrwyr, gan roi cyfleoedd gwirioneddol i Fangor a CSUFT ddatblygu rhaglenni academaidd newydd priodol i anghenion cymdeithasol ac economaidd lleol. Uchelgais dymor hir Prifysgol Bangor hefyd yw datblygu'r Coleg yn ganolfan astudio dramor ac ymchwil lle gall myfyrwyr Bangor dreulio un neu ddau semester yn astudio ac ymchwilio yn Tsieina.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014