Pedwar allan o bedwar i Brifysgol Bangor yn Rownd Derfynol y Gwobrau Green Gown
Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Green Gown 2016 gyda phob un o'i phedwar cynnig. Hon yw'r flwyddyn gyntaf i'r brifysgol ymgeisio am y gwobrau pwysig hyn, a gynhelir gan The Environmental Association for Universities and Colleges (EAUC).
Mae'r Brifysgol yn ymuno â dros 100 o sefydliadau eraill yn y rownd derfynol, yn cynrychioli oddeutu 1.5 miliwn o fyfyrwyr a bron chwarter miliwn o aelodau staff, sy'n manteisio ar gynlluniau cynaliadwyedd arloesol mewn addysgu, arweinyddiaeth, ymchwil a bywyd myfyrwyr.
Roedd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y brifysgol, wrth ei bodd gyda'r llwyddiannau, fel yr eglurodd:
"Yr adeg yma'r llynedd sefydlwyd y Labordy Cynaliadwyedd i weithredu fel canolbwynt i gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, ac fel catalydd i ddod â chynaliadwyedd i bob agwedd ar yr hyn rydym yn ei wneud drwy ein hymchwil, addysgu a dysgu, ymwneud â'r cyhoedd a materion campws. Newydd ddechrau yr ydym ar y cam hwn o'n taith mewn gwirionedd ac felly roeddwn yn hynod falch o weld ein bod wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob un o'r dosbarthiadau rydym wedi ymgeisio ynddynt. Mae pob un yn enghraifft ragorol o integreiddio a chydweithio rhwng tîm y Labordy Cynaliadwyedd, ein myfyrwyr, a thimau eraill yn y brifysgol.
Rydym wedi cyrraedd y rownd derfynol am y Project Cyfleusterau a Gwasanaethau Gorau gyda'n hymgyrch #CaruEichNeuaddau, y Project Cymunedol Gorau gyda'r ymgyrch ardderchog #CaruEichDilladBangor, y wobr am y Newydd-ddyfodiad Gorau i dîm y Labordy Cynaliadwyedd (anrheg pen-blwydd gwych, a ddaeth ddiwrnod ar ôl ein pen-blwydd cyntaf), a'r Wobr Arweinyddiaeth gyda Chynaliadwyedd. Fi yw'r un sydd wedi'i henwebu yn y dosbarth hwn ond, mewn gwirionedd, mae'n cydnabod ymrwymiad ein His-ganghellor, Dirprwy'r Is-ganghellor a Phwyllgor Gweithredu'r brifysgol i wneud hyn yn flaenoriaeth i Brifysgol Bangor."
#CaruEichNeuaddau
Gyda bron i 3000 o fyfyrwyr yn mynd drwy Neuaddau Preswyl y Brifysgol bob blwyddyn, sylweddolodd y brifysgol bod yna gyfle nid yn unig i wella sgiliau'r myfyrwyr o ran byw'n annibynnol a defnyddio bwyd, ond hefyd i annog arferion sy'n hybu cynaliadwyedd.
Mae'r ymgyrch #CaruEichNeuaddau, a gynhelir gan dîm Bywyd Preswyl y Neuaddau, gydag arweiniad arbenigol gan dîm y Labordy Cynaliadwyedd, wedi sicrhau arbedion sylweddol i'r brifysgol ac i fyfyrwyr, ac wedi arwain at roddion o bwys i elusennau. Gan arwain drwy esiampl, mae'r brifysgol wedi gwneud arbedion o dros £100,000 mewn blwyddyn, ac wedi sicrhau arbedion i fyfyrwyr hefyd drwy eu hannog i gynllunio eu siopa bwyd yn ofalus. Mae'r brifysgol a myfyrwyr unigol hefyd wedi bod yn rhoi nwyddau i elusennau i'w defnyddio neu eu hailwerthu ganddynt. Fel yr eglurodd Deirdre McIntyre, Rheolwr Bywyd Preswyl dros Neuaddau'r Brifysgol:
"Mae neuaddau Prifysgol Bangor wedi dod yn uchaf ym Mhrydain am ansawdd y llety yn y gwobrau 'What Uni', lle mae myfyrwyr yn pleidleisio dros y cyfleusterau. Fel rhan o'n hymgyrch i sicrhau gwelliannau cyson a ffocws y brifysgol ar ddod yn 'Brifysgol Gynaliadwy', fe wnaethom benderfynu cynnal ymgyrch a fyddai o fudd i'r myfyrwyr, y brifysgol a'r gymuned.
"Fe wnaethom droi at ein harbenigwyr ar gynaliadwyedd yn Labordy Cynaliadwyedd y brifysgol i weithio gyda ni ar ein hymgyrch, gan weld lle gellid gwneud arbedion a rhoi llinell sylfaen y gallem fesur ein llwyddiant yn ei herbyn."
Rydym wedi cynnal gweithdai i fyfyrwyr i wella sgiliau coginio a siopa a lleihau gwastraffu bwyd, yn ogystal â phrojectau sy'n annog myfyrwyr i ailgylchu a rhoi unrhyw nwyddau nad ydynt yn eu defnyddio neu eu heisiau i elusennau. Cafwyd ymgyrch "Diffoddwch" i annog myfyrwyr i ddefnyddio llai o drydan a gosodwyd pennau newydd ar y cawodydd sy'n defnyddio dŵr yn fwy effeithlon a thrwy hynny wneud arbedion mewn defnyddio dŵr a thrydan i'r brifysgol.
#CaruEichDilladBangor
Mewn cynllun arloesol a all gael ei ymestyn i brifysgolion eraill yng Nghymru, Prydain ac yn fyd-eang, fe wnaeth Labordy Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr ymuno ag ymgyrch Caru Eich Dillad WRAP. Heriwyd cymunedau o amgylch Bangor i chwynnu eu cypyrddau dillad a rhoi tunnell o ddillad diangen i elusennau lleol fel rhan o wythnos #CaruEichDilladBangor. Roedd y lleoliad a ddewiswyd ar Stryd Fawr Bangor yn lle perffaith i ddangos sut mae tunnell o ddillad yn edrych a pha mor gyflym y gellir ei gasglu o gymuned fechan, gyda rhoddwyr yn derbyn tocynnau i'w "gwario" yn yr achlysur Swisho hynod boblogaidd ar ddiwedd yr wythnos.
"Roeddem yn awyddus i gael cynllun a fyddai'n fuddiol a chryfhau ein cysylltiadau â Bangor i gyd a thu hwnt, yn cynnwys staff a myfyrwyr y brifysgol, busnesau lleol a'r gymuned leol. Roedd hwn yn tynnu sylw at yr effaith mae cynhyrchu dillad yn ei chael ar yr amgylchedd ac yn helpu pobl i gymryd camau hawdd ac ymarferol i arbed arian a lleihau eu gwastraff dillad," eglurodd Rebecca Colley-Jones, a arweiniodd yr ymgyrch #CaruEichDilladBangor ar ran y brifysgol. "Fe wnaethom dderbyn dwbl y rhoddion roeddem wedi gobeithio eu cael yn wreiddiol gan i bawb ymroi iddi i sicrhau bod yr wythnos yn llwyddiant. Ers hynny rydym wedi gweld brwdfrydedd mawr i gynnal digwyddiadau tebyg ar hyd a lled Gwynedd a Môn."
Gan gysylltu â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor a'r ymgyrch #CaruEichNeuaddau, bu'r siop sydyn yn ganolbwynt creadigol prysur hefyd i gyfres o ddigwyddiadau am ddim, gyda'r bwriad o helpu pobl i wneud y gorau o'u dillad. Fe wnaeth gemau a gweithgareddau dynnu sylw at wir werth dillad, y materion amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwastraff dillad, a sut y gall dewis prynu dillad ail-law a rhoi dillad diangen i elusen helpu eraill. Mewn gweithdai a dosbarthiadau meistr dyddiol unigryw, fe wnaeth cynllunwyr ac arbenigwyr rannu syniadau ymarferol a rhwydd ar sut i arbed lle, arbed arian a gwneud y defnydd gorau o eitemau sydd gan bobl eisoes. Dangoswyd sut i wneud i ddillad bara'n hirach drwy eu haltro, eu trwsio neu wella golwg hoff eitemau.
Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor a thîm y Labordy Cynaliadwyedd
Mae Einir a'i thîm Labordy Cynaliadwyedd hefyd wedi dod i'r rownd derfynol yn y dosbarthiadau 'Arweinyddiaeth' a 'Newydd-ddyfodiad Gorau'. Fel Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y brifysgol, mae gan Einir gylch gorchwyl i arwain cynaliadwyedd drwy bob agwedd ar waith y sefydliad, fel rhan o'r angen byd-eang i bobl ymhob man fedru byw'n dda o fewn adnoddau'r blaned. Dan ei harweiniad hi mae datblygu cynaliadwy yn y brifysgol wedi cael ei drawsnewid o fod yn ymdrech anffurfiol i fod yn fater strategol o bwys sydd wedi ei ymgorffori yng nghynllun strategol y brifysgol. Eleni, mae Prifysgol Bangor wedi derbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel fframwaith i weithredu, gan gynnwys ymrwymiad cadarn i gynaliadwyedd yn ei chynlluniau datblygu.
Mae tîm Einir yn ymroi i weithio ledled y brifysgol, a thu hwnt iddi, o'r Labordy Cynaliadwyedd. Maent eisoes wedi sicrhau sawl gwobr ac anrhydedd, yn cynnwys dod i'r 5% uchaf o brifysgolion rhyngwladol yn yr UI Green Metric 2016, ac ennill Anrhydedd Dosbarth 1af a 'Gorau yng Nghymru' am ddwy flynedd yn olynol yng Nghynghrair Werdd y Bobl a'r Blaned. Mae gwiriad iechyd y tîm cynaliadwyedd, a'i farc siarter cysylltiedig i fusnesau, wedi cael eu cydnabod fel y 'gorau yn Ewrop' gan adolygwyr annibynnol, ac mae gan y brifysgol hefyd dystysgrifau pwysig y Ddraig Werdd a safonau Rheolaeth Amgylcheddol ISO14001.
Mae'r Labordy Cynaliadwyedd yn awyddus i bwysleisio bod yr holl lwyddiannau hyn yn adlewyrchiad o ymroddiad yr Is-ganghellor, Dirprwy'r Is-ganghellor a'r Pwyllgor Gweithredu i gynaliadwyedd. Mae hynny'n amlwg drwy'r weledigaeth a amlinellwyd yng Nghynllun Strategol 2015-2020 y brifysgol. Dylid canmol yn ogystal y brwdfrydedd y mae cymaint o gydweithwyr yn ei ddangos wrth ymdopi â'r sialensiau sy'n gysylltiedig â sicrhau lles a ffyniant cenedlaethau'r dyfodol.
Y Gwobrau Green Gown
Sefydlwyd y Gwobrau Green Gown yn 2004 ac mae ganddynt banel beirniadu o dros 80 o arbenigwyr. Maent yn dilysu a rhoi sylw i'r cynlluniau cynaliadwyedd eithriadol ac arloesol a gyflawnir gan brifysgolion, colegau a'r sectorau dysgu a sgiliau ledled Prydain ac Iwerddon, wrth i'r sector addysg arwain llwybr at wytnwch, effeithlonrwydd, cyflogadwyedd a gwell ansawdd bywyd i ni i gyd.
Cyhoeddir yr enillwyr yn Seremoni'r Gwobrau Green Gown a gynhelir yn The Athena yn ardal ddiwylliannol Caerlŷr ar 10 Tachwedd, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Montfort a Phrifysgol Caerlŷr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016