Pedwarawd Arobryn yn dychwelyd i Fangor
Mae Pedwarawd Llinynnol Benyounes, sydd â’i holl aelodau’n fenywod, yn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar gyfer dwy gyngerdd yr wythnos hon, ar ôl ennill Gwobr fawreddog Daisy de Saugy am ddatganiad eithriadol o gerddoriaeth siambr yr wythnos ddiwethaf yng Ngenefa. Hwn fydd trydydd ymweliad y pedwarawd â Bangor, ac mae’n dilyn cyngherddau diweddar mewn gwyliau ar draws Ewrop sydd wedi denu cryn sylw – “catch one of their recitals if you can,” ysgrifennodd un adolygwr ar ôl perfformiad yn Abertawe – yn ogystal â pherfformiad gwadd arbennig o flaen y Prif Weinidog yn 10 Downing Street yng Ngorffennaf.
“Mae bob amser y wych dychwelyd i Ogledd Cymru, ac mae Neuadd Powis yn lleoliad gwych ar gyfer cerddoriaeth siambr,” medd y feiolinydd Sara Roberts, o Lanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn.
Bydd Pedwarawd Benyounes yn llwyfannu datganiad awr ginio ddydd Gwener 14 Hydref, a fydd yn cynnwys pedwarawd llinynnol adnabyddus Mozart yn G fwyaf, K387, a darn anarferol, dan ddylanwad jazz, gan y cyfansoddwr Thierry Escaich o Ffrainc. Bydd cyngerdd y nos Sadwrn yn cynnwys tri o’r gweithiau godidocaf ar gyfer pedwarawd llinynnol, yn cynnwys y pedwarawd olaf un a gwblhawyd gan Haydn, ‘tad y pedwarawd llinynnol’.
Cyngherddau: Dydd Gwener 14 Hydref, Neuadd PJ, Prifysgol Bangor, 1.15pm
Nos Sadwrn 15 Hydref, Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011