Peidiwch â gwneud camgymeriad!
Bydd athletwyr yn y Gemau Olympaidd yn ceisio perfformio i’w llawn botensial o dan lawer o bwysau yr haf yma. Bydd pob un yn ceisio ennill medal aur ac yn canolbwyntio ar beidio â gwneud camgymeriadau. Ond mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos y bydd rhai perfformwyr yn debygol o wneud y camgymeriad maent yn ei ofni fwyaf.
Mae ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos yn gyson pan fo pobl o dan bwysau i berfformio'n dda, fel yn y Gemau Olympaidd, maent yn dueddol o wneud y camgymeriad maent yn ceisio ei osgoi. Er enghraifft, os yw rhedwr ar y bloc cychwyn dan bwysau yn dweud wrth ei hun, "beth bynnag wyt ti’n ei wneud, paid â gadael y bloc cychwyn yn gynnar” bydd yn eironig wedi paratoi ei chorff i adael y bloc yn gynnar ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o adael y bloc cychwyn yn gynnar. Mae gwneud camgymeriad yr ydych yn canolbwyntio ar beidio ei wneud wedi cael ei adnabod gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor fel y Camgymeriad Eironig. Mae’n eironig oherwydd ei fod yn digwydd o ganlyniad i broses adborth sydd gan amlaf yn caniatáu i ni weithio’n effeithiol pan nad ydym dan bwysau.
Mae’r ymchwil diweddaraf yn cadarnhau’r canfyddiad hwn mewn dwy ffordd ryfeddol. Yn gyntaf, nid yw athletwyr dan bwysau yn gwneud camgymeriadau ar hap, maent yn gwneud y camgymeriad penodol y maent yn ceisio ei osgoi (y camgymeriad eironig). Yn ail, mae athletwyr sy’n ceisio cuddio eu pryder am berfformio, er enghraifft, ceisio ymddangos yn ddidaro pan maent o dan bwysau yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau perfformiad eironig.
Mae dwy ffordd o leihau’r tebygolrwydd o gyflawni’r camgymeriad eironig. Y cyntaf yw lleihau pryder a’r straen sy’n gysylltiedig; a’r ail yw defnyddio datganiadau cadarnhaol wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Yn hytrach na meddwl ‘paid â tharo’r bel yn rhy fyr’'; dylai’r golffiwr ganolbwyntio ar ganol y twll.
Er bod yr ymchwil hwn wedi gweld tystiolaeth bod y camgymeriad eironig yn digwydd mewn sawl math o chwaraeon fel hoci, pêl-droed a golff, gall ddigwydd yn unrhyw le. Mae’r ymchwilwyr ym Mangor yn awr yn edrych ar beth mae pobl yn canolbwyntio arno pan maent yn gwneud camgymeriad eironig. Maent yn gwneud hyn trwy dracio symudiadau llygaid perfformwyr pan maent yn perfformio dan bwysau. Mae’r ymchwil cynnar yn awgrymu yr amherir ar allu perfformwyr i ganolbwyntio pan maent dan straen ond y cwestiwn yw: a yw’n cael ei amharu’n benodol tuag at y camgymeriad eironig?
Mae perthnasedd ymddygiad eironig a pherfformiad yn ymestyn tu hwnt i’r cae chwarae. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu rhieni i ddelio’n effeithiol gydag ymddygiad plant trwy newid sylwadau negyddol rhieni i fod yn ddatganiadau cadarnhaol. Gall rhieni sy’n poeni bod eu plant yn bwyta gormod o siocled gael effaith gadarnhaol trwy ofyn i'w plentyn i “gymryd afal” yn hytrach na dweud wrthynt am “beidio â bwyta cymaint o siocled”.
Eglura Dr Tim Woodman, Cyd-gyfarwyddwr IPEP:
“Gall camgymeriadau eironig ddigwydd i ddynion a merched dan bwysau ym myd chwaraeon. Mae’n rhaid i’r pethau rydych eisiau eu gwneud cael gofod cof gweithio yn eich ymennydd Gelwir hyn yn broses weithredu; mae’r broses hon yn gadael i ni ganolbwyntio ar beth rydym eisiau ei wneud ond mae'n gofyn am rywfaint o ymdrech ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio'n fwriadol ar wneud y pethau hyn (e.e., anelu at y gornel waelod mewn cic gosb pêl-droed). Mae’r broses fonitro yn gofalu am y pethau nad ydych eisiau eu gwneud; mae’r broses yn sicrhau nad ydym yn gwneud rhywbeth nad ydym eisiau ei wneud; does dim rhaid i ni feddwl am y pethau hyn mewn bywyd bob dydd. Pan nad ydym dan bwysau, mae’r ddwy broses hon yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd ac rydym yn gwneud yr hyn roeddem eisiau ei wneud. Ond pan rydym ni dan bwysau, mae ein pryder yn cymryd rhywfaint o'r cof gweithio ac yn lleihau'r broses weithredu (canolbwyntio ar beth rydym ei eisiau), sy’n golygu bod y broses fonitro yn fwy tebygol o ddod i’r amlwg. Felly, mae’r broses sydd fel arfer yn gofalu nad ydym yn gwneud y pethau nad ydym eisiau eu gwneud, mewn gwirionedd yn gyfrifol am y ffaith ein bod yn gwneud yr hyn nad ydym eisiau ei wneud, yn union pan nad ydym eisiau ei wneud, dyna beth sy’n eironig.
Mae hon yn un o ddau ddarn ymchwil o Brifysgol Bangor sy'n cael eu hamlygu mewn adroddiad UUK: "Supporting a UK success story: The impact of university research and sport development."
Am ragor o straeon am ymwneud â Phrifysgol Bangor â'r gemau Olympaidd ewch at ein safle: http://www.bangor.ac.uk/uniweek/index.php.cy?
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012