Peiriannydd amlwg yn lansio Arloesi Pontio
Bu un o beirianwyr amlycaf y DU, yr Athro Syr John O'Reilly, ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar (Ionawr 28) yn lansio Arloesi Pontio.
Yn fwyaf diweddar, bu Syr John O’Reilly yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwybodaeth ac Arloesi i Lywodraeth y DU rhwng 2013 a 2015. Mae’n gyn-Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor ac aeth ymlaen wedyn i fod yn Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol ac yn Is-ganghellor Prifysgol Cranfield.
Mae Arloesi Pontio yn rhoi cyfle newydd pwysig i fusnesau gael mynediad at yr arbenigedd a’r cyfleusterau sydd ar gael yn y Brifysgol. Mae gan Fangor brofiad cadarn o ddarparu cefnogaeth busnes arobryn o ansawdd da sy’n canolbwyntio ar ysbrydoli arloesi, gwella perfformiad a hyrwyddo cynaliadwyedd.
Yn y Ddarlith Sefydlu Gyhoeddus, siaradodd yr Athro Syr John O'Reilly am yr angen i beirianwyr arddel creadigrwydd a chynnwys y Celfyddydau yn yr agenda Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Meddai Syr John:
“Yr hyn sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yw’r rhyngweithio rhwng ymchwil, menter ac addysg uwch. Mae’n addas felly bod pwyslais cryf ar bynciau STEM: y gwyddorau, technoleg, peirianneg a mathemateg. Yn ogystal â chyfraniadau pwysig gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, mae’r celfyddydau a’r dyniaethau hefyd yn cyfrannu, gan roi pwyslais arbennig ar gysylltiadau rhyngweithiol – ac yn yr ysbryd hwnnw y mae Arloesi Pontio yn gweithredu."
Ychwanegodd:
"Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i siarad yng nghanolfan newydd Pontio, menter oleuedig o ran amcanion, a rhai yr wyf yn cydweld yn gryf â hwy.”
Manteisiodd Syr John ar y cyfle i ymweld â gweithdy Menter Trwy Ddylunio. Wedi ei ddatblygu gan Brifysgol Bangor, mae Menter Trwy Ddylunio yn herio timau amlddisgyblaethol i ddatblygu cynnyrch arloesol. Er mwyn cymryd rhan mae myfyrwyr sy’n astudio Seicoleg, Peirianneg Electronig, Dylunio Cynnyrch, Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, a Busnes yn dilyn cyfres wyth wythnos o weithdai dwys sy’n canolbwyntio ar ysbrydoliaeth, creadigrwydd, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth fasnachol.
Dywedodd Syr John fod gwaith y Brifysgol wrth ddatblygu Menter Trwy Ddylunio yn rhagorol, ac meddai:
“Rwy’n cymeradwyo'r integreiddio yn y project yma. Mae’n ymestyn ar draws disgyblaethau, ac yn gosod dylunio ac entrepreneuriaeth fel rhan hanfodol o’r hyn sy’n digwydd. Mae’n cydnabod y gall y seicolegydd, yr arbenigwr ar reolaeth, y cemegydd, y peiriannydd electronig a’r gwyddonydd cyfrifiadurol ddod ynghyd mewn ffordd ddefnyddiol a chyfrannu eu meddyliau a’u gwybodaeth.
Mae natur y problemau’n amlweddog ac mae angen tîm amlddisgyblaethol i fynd i’r afael â nhw.”
Meddai am Pontio:
“Mae llawer o ymchwil heddiw’n gofyn am ddwyn pobl o wahanol ddisgyblaethau ynghyd er mwyn mynd i’r afael â natur a graddfa’r problemau sy’n ein hwynebu – yn yr ysbryd hwnnw y mae Pontio’n gweithredu.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2016