Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr yn dychwelyd i Ogledd Cymru.
Bydd Clwb Octopush Prifysgol Bangor yn cynnal Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr ym mhwll Llandudno ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth rhwng 10am a 7pm.
Mae Octopush, sydd hefyd yn cael ei alw’n hoci tanddwr, yn cael ei chwarae gan 6 chwaraewr a 4 eilydd i bob tîm, gyda phob un yn gwisgo snorcel, mwgwd ac esgyll ac yn cystadlu am gnap plwm, neu sgwid, ar waelod y pwll gan ddefnyddio ffyn bychain. Cafodd y gamp ei dyfeisio yn y DU ym 1954, ac ers hynny mae’r gêm wedi cael ei mabwysiadu’n rhyngwladol ac wedi arwain at fersiynau eraill ohoni, gan gynnwys fersiwn dan rew sydd yn cael ei chwarae ben i waered gyda chnap sydd yn arnofio yn erbyn yr ia.
Cafodd Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr eu cynnal gan glwb Bangor yn 2009, ac oherwydd cyfleusterau’r pwll, sy’n cynnig lleoliad perffaith ar gyfer gemau Octopush, mae’r clwb wedi cael y fraint o gynnal y pencampwriaethau unwaith eto.
Mae yna groeso i ymwelwyr ddod i bwll Llandudno i wylio yn ystod y dydd, a bydd Upper Crust yn gwerthu bwyd a diod. Dilynir y Pencampwriaethau gan seremoni wobrwyo breifat a gynhelir gan noddwyr y digwyddiad, Embassy, cyn i’r clwb ail-agor i’r cyhoedd ar gyfer parti swyddogol Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr.
Yn ogystal â chefnogaeth gan Embassy, mae’r clwb yn derbyn cefnogaeth gan staff pwll Llandudno a busnes lleol Upper Crust Llandudno. Bydd 150-200 o fyfyrwyr o brifysgolion ledled y DU yn ymweld â Bangor am y penwythnos ar gyfer y digwyddiad, ac yn cael budd o letygarwch busnesau’r Gogledd.
Dywedodd Capten y Clwb, Micha Wynne:
"Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd gan y Gogledd i’w gynnig i fyfyrwyr a fydd yn chwarae a chefnogi Octopush o bob cwr o’r DU. Mae cefnogaeth busnesau lleol i’r digwyddiad wedi bod yn aruthrol ac rydym yn gobeithio bydd llawer mwy yn cael budd o ymweliad ein gwesteion dros y penwythnos.”
Meddai Emyr Bath, Is-Lywydd Iechyd a Byw yn iach Undeb y Myfyrwyr: “Mae Octopush wedi bod yn Glwb gweithgar ym Mhrifysgol Bangor ers blynyddoedd maith. Mae’n esiampl wych o’r ystod eang o Glybiau a gweithgareddau chwaraeon ac awyr agored sydd ar gael i’n myfyrwyr eu mwynhau.”
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013