Pencampwyr Eisteddfod Ryng-golegol am y pedwerydd tro yn olynol
Am y bedwaredd blwyddyn yn olynol, mae myfyrwyr UMCB Bangor wedi ennill yr Eisteddfod Ryng-golegol, a gynhaliwyd eleni ym Mhrifysgol Abertawe.
Gan gyfrannu at y canlyniad terfynol, roedd myfyrwyr y Brifysgol hefyd yn llwyddiannus yng nghystadlaethau chwaraeon yr Eisteddfod y Dydd Gwener. Enillodd y merched y pêl-droed a rygbi ac roeddynt yn ail yn y pêl-rwyd. Gyda’r bechgyn yn dod yn ail yn y rygbi a thrydydd yn y pêl-droed, Bangor oedd yn fuddugol ar ddiwedd yr holl chwaraeon. Roedd y myfyrwyr hefyd yn llwyddiannus ym mhrif gystadlaethau’r llwyfan - sgets, meimio, dawns gwerin a stepio, côr sioe gerdd, côr bechgyn, côr merched a’r côr mawr. I goroni hyn, dyfarnwyd Tlws y Cerddor i fyfyriwr yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Alistair Mahoney a Medal y Dysgwyr i Jack Wilson, myfyriwr yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol.
Meddai Gethin Morgan, Llywydd UMCB:
“Mae UMCB wedi llwyddo unwaith eto i sicrhau bod y tlws yn dychwelyd i Fangor am y pedwerydd tro yn olynol. Roedd hyn o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr. Nid oes amheuaeth mai Bangor oedd yn rhagori gyda’r cystadlaethau llwyfan, gyda sglein ac ôl gwaith ar yr eitemau. Fel Llywydd, mae’n rhaid imi ddiolch o galon i bawb a fu ynghlwm gyda’r gwaith. Roedd ymddygiad myfyrwyr Bangor yn ystod y dydd yn glod mawr i’r Brifysgol.”
Mae wedi bod yn gyfnod prysur i aelodau Côr UMCB, gan iddynt hefyd gystadlu yng nghategori Côr Ieuenctid yn y gystadleuaeth a rhaglen deledu boblogaidd, Côr Cymru. Roedd y Côr i’w weld yn perfformio nos Sul 3 Mawrth ar S4C.
Llongyfarchwyd y myfyrwyr ar eu llwyddiant gan Ddirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned) Prifysgol Bangor, Yr Athro Jerry Hunter, a ddywedodd:
“Mae cymuned ac ymdeimlad o Gymreictod yn elfennau hanfodol o gymeriad y Brifysgol. Mae’n wych gweld bwrlwm gweithgareddau ein myfyrwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith yn cael ei adlewyrchu gan y fath lwyddiant unwaith yn rhagor eleni.
“Gyda bron i hanner o’r holl fyfyrwyr sy’n astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg bellach yn gwneud hynny ym Mangor, gan ddilyn yr amrediad eang o raglenni gradd a modiwlau unigol sydd ar gael yma, mae’n wych bod hyn wedyn yn cael ei adlewyrchu yn y diwylliant Cymraeg a Chymreig byrlymus a bywiog sydd yn y Brifysgol.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019