Penddelw newydd ym Mhrifysgol Bangor i goffau ysgolhaig hunanddiwylliedig
Dadorchuddiwyd penddelw newydd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Mae’r penddelw’n coffau Bob Owen, Croesor ( 1885-1962), hynafiaethydd, achydd, darlithydd huawdl a llyfrbryf enwog a gasglodd lyfrgell ryfeddol o lyfrau a chylchgronau yn ei gartref yng Nghroesor, Meirionnydd.
Comisiynwyd y penddelw gan y cerflunydd adnabyddus John Meirion Morris gan Gymdeithas Bob Owen, cymdeithas casglwyr a charwyr llyfrau Cymraeg a Chymreig.
Roedd Bob Owen yn gyfaill i lyfrgellydd y brifysgol, Dr Thomas Richards, a threuliodd oriau’n trafod llyfrau a chasgliadau gydag ef ac academyddion blaenllaw’r brifysgol. Mae’n addas iawn felly bod Prifysgol Bangor yn rhoi cartref parhaol i’r penddelw yn Narllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell y Brifysgol, sef lleoliad y Llyfrgell Gymraeg.
Meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wrth dderbyn y penddelw ar ran y brifysgol:
“Mae’r brifysgol yn falch o dderbyn y penddelw o Bob Owen, Croesor gan Gymdeithas Bob Owen. Bydd i’w gweld yn Narllenfa’r Shankland, lle bu ef a’i gyfaill Dr Thomas Richards yn trin ac yn trafod llyfrau a dogfennau hanesyddol. Mae yna sawl penddelw yn y Brifysgol yma o uchelwyr, cyfreithwyr ac o bobl academaidd, ond dyma'r penddelw cyntaf o werinwr diwylliedig o Feirionnydd i gyrraedd llyfrgell y Brifysgol.”
Er i addysg ffurfiol Bob Owen ddod i ben pan adawodd Ysgol Llanfrothen yn 13 oed, roedd yn uchel iawn ei barch gan sawl academydd blaenllaw, ac yn enwog drwy Gymru am ei ddarlithoedd ac am ei golofn wythnosol.
Bu’n gweithio fel gwas fferm am dair blynedd cyn cael ei benodi i swydd yn Chwarel Parc a Chroesor. Bu’n gweithio yno am 30 o flynyddoedd hyd at Ionawr 1931, pan gaewyd y chwarel oherwydd y dirwasgiad. Wedi dwy flynedd a hanner o fod yn ddi-waith, fe’i penodwyd yn drefnydd Sir Gaernarfon Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Workers’ Educational Association) ac yna’n ddarlithydd iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013