Penodi aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg
Mae Dr Lowri Angharad Ahronson o Ganolfan Bedwyr wedi’i phenodi’n aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Mae Dr Lowri Angharad Ahronson o Ganolfan Bedwyr wedi’i phenodi’n aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yw Cadeirydd y Cyngor a swyddogaeth y grŵp yw cynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â strategaeth newydd y Gymraeg a chynlluniau gweithredu blynyddol Gweinidogion Cymru o dan y strategaeth.
Fel Cyfarwyddwr Cynllun Iaith Prifysgol Bangor, mae gan Dr Lowri Ahronson brofiad eang ym maes polisi iaith a bydd yn defnyddio’r arbenigedd hwn yn ei rôl ar y Cyngor Partneriaeth. Mae Dr Ahronson yn cyhoeddi gwaith academaidd ym maes cynllunio iaith ac fe fu’n gyfrifol am arwain datblygiad MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol Prifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae’n arwain datblygiad Tystysgrif Genedlaethol Sgiliau Iaith Gymraeg ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel cadeirydd grwpiau sirol a chenedlaethol ym maes polisi iaith, mae’n ymwneud â datblygu gweithleoedd dwyieithog ac roedd, er enghraifft, yn rhan o’r tîm yng Nghanolfan Bedwyr a ddatblygodd y wefan Cymorth Cymraeg. Mae gan Lowri ddiddordeb hefyd yn nimensiwn rhyngwladol cynllunio iaith ac mae wedi datblygu cysylltiadau a hwyluso trafodaethau rhwng arbenigwyr yng Nghymru a Chanada er mwyn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r maes cymhleth a chyffrous hwn.
Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Bangor:
'Mae'n fraint i ni fel sefydliad weld dylanwad amlwg aelodau staff ar y byd a'r bywyd Cymreig. Y mae cyfraniad Dr. Lowri Ahronson i faes Polisi Iaith yn wybyddus ers tro byd ac mae'n dda bod ei harbenigedd hi (a blaengaredd Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor) ar gael er budd Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn ystod y tair blynedd nesaf.'
Prifysgol Bangor yw’r brifysgol arweiniol yng Nghymru o ran cynnig modiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr ac o ran safon ac ystod ei gwasanaethau dwyieithog. Cydnabyddir bod gwaith Canolfan Bedwyr ym maes cynllunio iaith yn arloesol ac mae ei dylanwad yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012