Penodi Athro i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg
Mae'r Athro Enlli Thomas, Pennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei phenodi yn aelod newydd o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru.
Sefydlwyd y Cyngor gan Adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a’i brif bwrpas yw rhoi cyngor ac arweiniad i Weinidogion Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r Gymraeg. Daeth cyfnod y Cyngor Partneriaeth cyntaf i ben ar 31 Mawrth.
Meddai Alun Davies: “Roeddwn yn fodlon iawn gyda’r ymateb cadarnhaol cafwyd i’r broses benodi. Roedd safon yr ymgeiswyr, a’r amrediad o arbenigedd yn eithriadol o uchel, ac nid oedd y penderfyniad o bwy i benodi yn un hawdd. Rwyf felly wedi penodi 10 aelod, ac rwyf yn ddiolchgar iddynt am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Cyngor Partneriaeth.
“Rwyf yn hyderus bod ganddynt y profiad a’r arbenigedd sydd angen i gefnogi fi a fy swyddogion i weithredu 3 mlynedd gyntaf y strategaeth newydd. Rwy’n disgwyl ymlaen i gydweithio gyda nhw.
Meddai’r Athro Enlli Thomas:
“Mae hwn yn gyfle gwych i gael bod yn rhan o dim fydd yn cynnig arweiniad arbenigol wrth weithredu’r strategaeth iaith newydd. Mae’r tim yn cynnwys unigolion sydd ag ystod eang o arbenigeddau a bydd fy 20 mlynedd o brofiad o ymchwilio ym maes datblygiad iaith a dwyieithrwydd o berspectif seicoieithyddol, sosioieithydol ac addysgol yn sicr o fod yn ddefnyddiol.”
Yn ymuno ag Enlli Thomas ar y Cyngor newydd mae: Simon Brooks, Owen Derbyshire, Rhian Huws-Williams, Dewi Jones, Gwion Lewis, Angharad Lloyd-Williams, Rhodri Llwyd Morgan, Gwynedd Parry, Enlli Thomas, a Marian Thomas. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2017 am gyfnod o dair blynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2017