Penodi Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio
Mae Prifysgol Bangor wedi penodi Elen ap Robert yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio, canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi gwerth £40m yn y Brifysgol.
Bydd yn gyfrifol am ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau artistig ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd, yn ogystal â defnyddio’r celfyddydau i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng y brifysgol a’r gymuned.
Graddiodd Elen mewn cerddoriaeth o Brifysgol Sheffield cyn treulio chwe blynedd fel cantores opera broffesiynol. Mae wedi gweithio hefyd fel therapydd cerdd yn arbenigo mewn rhoi cefnogaeth i blant gydag anableddau dysgu ac anawsterau cyfathrebu yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy.
Er 2005 bu’n Gyfarwyddwr Artistig Galeri yng Nghaernarfon, lle mae wedi datblygu rhaglen lwyddiannus iawn o ddigwyddiadau artistig a gweithgareddau cymunedol.
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G Hughes: “Rwy’n hynod falch o gael croesawu Elen fel Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio.
“Mae’r project yn gynllun hynod gyffrous a fydd yn dod â llawer o fudd i’r rhanbarth. Mae’r Cyfarwyddwr Artistig yn allweddol i ddatblygu nid yn unig elfen theatr y ganolfan, ond hefyd lawer mwy, yn cynnwys cyfrannu at y rhaglen gymunedol gynyddol amlwg, a gweithio gyda myfyrwyr y Brifysgol.
“Bwriad Pontio, sydd i fod i agor ymhen dwy flynedd, yw dod â’r celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg a’r diwydiannau creadigol at ei gilydd ac ysgogi adfywiad economaidd y rhanbarth. Mae swydd Cyfarwyddwr Artistig yn allweddol i ddatblygiad hir dymor Pontio, ac roeddem yn benderfynol o benodi rhywun a allai siarad Cymraeg i’r swydd yma.”
Meddai Elen ap Robert: "Rwyf yn hynod falch i gael fy mhenodi fel Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio. Mae’n sialens enfawr, ac un yr wyf yn edrych ymlaen ato yn fawr, yn enwedig gan fod gennym gymaint i’w wneud rhwng rŵan ac agor y ganolfan. Mae gan Pontio lawer iawn i’w gynnig i’r rhanbarth, ac mae cyfle gwych i ni ddatblygu rhaglen greadigol newydd ac arloesol fydd yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb o bob oed.
Bydd Elen yn dechrau yn ei swydd fis Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2012