Penodi Dirprwy Is-Ganghellor newydd dros faterion Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned
Mae’r Athro Jerry Hunter wedi ei benodi yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfrifoldeb dros faterion Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned.
Yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio, graddiodd yr Athro Jerry Hunter ym Mhrifysgol Cincinnati, cyn astudio am MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Harvard. Dysgodd Gymraeg mewn cyrsiau WLPAN yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n darlithio ym mhrifysgolion Harvard a Chaerdydd cyn ymuno ag Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2003.
Mae’n adnabyddus fel cyflwynydd dwy gyfres deledu ar S4C a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd ganddo: “America Gaeth a’r Cymry”, a’r “Cymry a Rhyfel Cartref America” a enillodd Wobr BAFTA Cymru, ac fel awdur llyfrau ffeithiol, yn cynnwys Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America a enillodd wobr ‘Llyfr y Flwyddyn’ yn 2004, yn ogystal ag awdur ffuglen i blant ac oedolion. Mae hefyd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol (yn 2010), yr unig Americanwr i ennill un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol erioed.
Yn ogystal â’i rôl newydd, bydd yn parhau i ddarlithio a gwneud ymchwil academaidd. Bydd yn parhau i gadeirio Bwrdd Ymgynghorol y Celfyddydau i broject Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Fel Dirprwy Is-Ganghellor, ei brif gyfrifoldeb yn ei swydd newydd fydd datblygu ac arwain strategaethau’r brifysgol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â datblygu perthynas y brifysgol â chyrff allanol a’r gymuned. Yn y cyswllt hwn, wrth gwrs, mae ei ymwneud â phroject Pontio yn hynod berthnasol.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, “Rwyf yn falch iawn ein bod wedi penodi’r Athro Jerry Hunter i’r swydd bwysig hon. Mae gan Jerry ymrwymiad cryf tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac mae ei gyfraniad at ddatblygu project Pontio yn tanlinellu’r pwys mae’n ei roi ar adeiladu cysylltiadau cryf rhwng y brifysgol a chymunedau lleol a rhanbarthol.”
Meddai’r Athro Jerry Hunter, “Rwy’n hynod falch o gael fy mhenodi i’r swydd hon ac yn edrych ymlaen yn arw at yr hyn sydd o’m blaen. Rwy’n frwd iawn dros yr iaith Gymraeg ac yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd datblygu cysylltiadau cadarn rhwng y brifysgol a’r gymuned leol, ac rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at yr her.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2013