Penodi Dr Hayley Roberts yn Gomisiynydd Brenhinol
Pleser o'r mwyaf gan Ysgol y Gyfraith Bangor yw cyhoeddi bod Dr Hayley Roberts wedi'i phenodi'n Gomisiynydd Brenhinol i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Penodir comisiynwyr gan Y Frenhines, ar gyngor Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, o dan Warant Frenhinol.
Mae Dr Roberts yn Ddarlithydd mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol yn yr Ysgol, gan arbenigo yng nghyfraith y môr ac yn arbennig treftadaeth ddiwylliannol danfor. Meddai Dr Roberts: “Dwi'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gomisiynydd ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Comisiwn i roi blaenoriaeth i dreftadaeth forwrol gyfoethog Cymru. Mae'r dreftadaeth hon yn adnodd allweddol i ddeall ein gorffennol ac adrodd straeon ein cysylltiadau â'r môr, ac felly dwi'n hynod frwd ynghylch rhoi sylw amlwg i'r agwedd hon ar yr amgylchedd hanesyddol. ”
Wrth groesawu penodiad Dr Roberts, ychwanegodd Yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor: “Mae penodiad Hayley yn adlewyrchu dyfnder yr arbenigedd yma yn Ysgol y Gyfraith Bangor a bydd o gymorth hynod werthfawr i waith y Comisiwn Brenhinol. Dechreuodd arbenigedd Hayley mewn treftadaeth forwrol pan wnaeth ei doethuriaeth yma yn Ysgol y Gyfraith ym Mangor, a thros y blynyddoedd dilynol mae wedi dod i gael ei chydnabod fel awdurdod yn ei maes. Rydym yn falch iawn o glywed y newyddion am ei phenodiad a dymunwn yn dda iddi gyda gwaith y Comisiwn Brenhinol. ”
Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru swyddogaeth genedlaethol bwysig o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig a morwrol Cymru. Mae'n cynhyrchu, diogelu a darparu gwybodaeth awdurdodol i unigolion, sefydliadau corfforaethol a llywodraethol sy'n gwneud penderfyniadau, ymchwilwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae tirwedd a threftadaeth adeiledig Cymru yn ganlyniad ymwneud pobl â'r byd naturiol dros filoedd o flynyddoedd. Ers ei sefydlu yn 1908, mae'r Comisiwn Brenhinol wedi arwain y ffordd o ran ymchwilio i weddillion yr ymwneud hwnnw a'i egluro – yr archaeoleg a'r adeiladau hanesyddol a welwn o'n cwmpas.
Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi'i leoli yn Aberystwyth ac fe'i noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Cadeirydd a'r Comisiynwyr yn cyfarwyddo'r ymchwiliadau gan ein staff arbenigol, sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddarparu gwybodaeth awdurdodol a chyfoes i'r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019