Penodiad i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Penodwyd Dr Philip Hollington, o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol, i fod yn aelod o'r Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru am gyfnod o dair blynedd.
Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn yw Dr Ruth Hussey, sy'n cynrychioli Cymru ar Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA), a benodir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys arbenigwyr annibynnol sy'n cael eu dewis am eu profiad a'u gwybodaeth ymarferol o feysydd fel gorfodi, diwydiant bwyd, amaethyddiaeth, gwyddoniaeth sy'n gysylltiedig â bwyd a buddiannau defnyddwyr.
Dywedodd Dr Hussey: 'Rwy'n falch iawn bod Dr Hollington wedi'i benodi. Bydd profiad Phil yn werthfawr i'r Pwyllgor, a bydd yn gwella gallu'r Pwyllgor i roi cyngor i'r FSA ar faterion bwyd sy'n ymwneud â Chymru'.
Meddai'r Athro Morag McDonald, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Naturiol: 'Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ymgynghoriaeth, ymchwil ac addysgu am agweddau byd-eang ar amaethyddiaeth, yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd a bydd Phil yn cynrychioli'r arbenigedd hwn ar y Pwyllgor, ynghyd â'i arbenigedd ei hun ar ddiogelwch bwyd a newid hinsawdd.'
Dechreuodd Dr Hollington ei yrfa ym Mangor gyda'r Ganolfan Astudiaethau Tir Cras, ac arweiniodd nifer o brojectau'r Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig i wella cynhyrchu cnydau, gan weithio'n agos â ffermwyr prin eu hadnoddau, cyrff anllywodraethol, sefydliadau ymchwil a phrifysgolion yn Ne Asia ac Affrica. Yn fwy diweddar, datblygodd y cwrs dysgu o bell, MSc Diogelwch Bwyd yn yr Amgylchedd sy'n Newid, ac mae'n arwain modiwlau sy'n canolbwyntio ar heriau byd-eang mawr. Mae hefyd yn aelod o fwrdd rheoli Partneriaeth Hyfforddiant Bwyd Amaeth (AFTP), sef cydweithrediad rhwng 7 prifysgol ar draws y Deyrnas Unedig sy'n darparu hyfforddiant uwch i sectorau bwyd amaeth ac amgylchedd y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2018