Penodiadau Lleol i Fwrdd Seafish y DU
Mae dau o Ogledd Cymru sy’n gweithio mewn proffesiynau su’n ymwneud â’r môr wedi cael eu penodi i Fwrdd Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (Seafish) gan y pedwar Gweinidog Pysgodfeydd y DU.
Bydd Yr Athro Mike Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn aelod anweithredol o Seafish o 1 Ebrill 2012 tan 31 Mawrth 2015. Penodwyd ef yn gyntaf ac mae wedi gwasanaethu ar y Bwrdd ers 2008.
Dywedodd yr Athro Kaiser: 'Rwyf wrth fy modd o gael fy ail-benodi i Fwrdd Seafish gan fod gan y sefydliad rôl allweddol i'w chwarae yn nyfodol diogelwch bwyd ar gyfer y DU. Mae Seafish yn darparu cyswllt hanfodol rhwng diwydiant, gwyddoniaeth a pholisi; felly bydd yn fraint helpu i gyfeirio cylch gwaith Seafish.'
Bydd yr Athro Kaiser yn gwasanaethu ochr yn ochr ag is-gadeirydd newydd, Jane Ryder a chwe aelod anweithredol arall : Clare Dodgson, Peter Hajipieris, Philip Huggon, Michael Parc, Stephen Parry a James Wilson. Mae John Whitehead wedi cael ei ail-benodi Cadeirydd y Bwrdd Seafish.
Mae’r Athro Mike Kaiser hefyd wedi ei benodi fel aelod annibynnol o'r Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC), gan Richard Benyon, Gweinidog dros yr Amgylchedd Naturiol a Morol. Bydd y penodiad yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 am dair blynedd.
Mae Mike Kaiser yn Athro Ecoleg Cadwraeth Forol yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor. Mae hefyd yn cadeirio Fforwm Rhanddeiliaid Pysgodfeydd Morol Defra ac mae'n aelod panel o Weithgor Bwrdd Môr Sefydliad Gwyddor Ewropeaidd ar 'Ecosystemau Morol Gwerthfawrogi'.
Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth ymunodd â CEFAS lle bu’n arwain tîm ymchwil yn astudio effeithiau gweithgareddau dynol (pysgota a dyframaeth) ar yr amgylchedd morol. Ymunodd â Phrifysgol Bangor fel darlithydd lle ymhelaethodd y meysydd hyn i gwmpasu canlyniadau cymdeithasol ac economaidd gwahanol ddulliau o reoli gweithgareddau pysgota. Mae wedi ennill Medal y Gymdeithas Pysgodfeydd Ynysoedd Prydain a dyfarnwyd Cadair Bersonol mewn Ecoleg Cadwraeth Forol iddo.
Yn ymuno ag ef ar Fwrdd Seafish, James Wilson sy’n ffermio cregyn gleision yr Afon Menai ac sydd wedi graddio o Brifysgol Bangor. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai ac yn Gyfarwyddwr Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor Cyf (Bangor Mussel Producers Ltd) a Chadeirydd Pwyllgor Molysgiaid Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr.
Dywedodd James Wilson: "Rwy'n amlwg yn falch iawn mod innau hefyd wedi cael fy newis unwaith eto i eistedd ar y bwrdd. Mae’r blynyddoedd i ddod yn edrych fel rhai cyffrous o ran y ffordd yr ydym yn meddwl am ac yn defnyddio’n moroedd, dylai fod rôl ganolog i Seafish yn natblygiad y weledigaeth ac ymagwedd."
Mae James Wilson wedi bod yn rhan o'r datblygiad helaeth o bysgodfeydd gregyn gleision yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn ystod y degawd diwethaf. Mae’n wyddonydd morol o ran ei addysg, ac wedi gweithio yn y gorffennol i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Pysgotwyr; yr asiantaeth wladwriaeth Wyddelig sy'n gyfrifol am bysgota a dyframaeth sef Bwrdd Iascaigh Mhara (BIM); y Ganolfan Economeg a Rheoli Adnoddau Dyframaethu (CEMARE) yn Ewrop; ochr yn ochr â DFO / FOC a Chenhedloedd Cyntaf ar arfordir Môr Tawel Canada. Ef oedd un o apwyntiadau Llywodraeth Cymru ar Bwyllgor Pysgodfeydd y Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru Môr.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2012