Penrhos: darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ar deulu Stanley o Gaergybi
Bydd teulu Stanley o Benrhos, Caergybi yn ganolbwynt darlith gyhoeddus ddiddorol ym Mhrifysgol Bangor gan yr hanesydd lleol amlwg, Dr Gareth Huws. Yn dwyn y teitl 'Penrhos: powerful women and the curious tale of a knight, a lord and an “honourable"’, cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 9 Hydref am 5.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.
Dywedodd Dr Huws 'Bydd y ddarlith hon yn canolbwyntio ar dair cenhedlaeth o'r teulu Stanley a oedd yn byw ym Mhenrhos rhwng 1760 a 1880. Bydd yn dangos y gall astudio un teulu gyfrannu at y ddealltwriaeth hanesyddol ehangach o Gymru lled-wledig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg 'hir'. Yn ganolog i'r ddealltwriaeth hon mae'r rôl ganolog, a di-glod i raddau helaeth, y mae menywod y teulu yn ei chwarae.'
Bu Gareth Huws yn dysgu cemeg yn ysgolion Ynys Môn am nifer o flynyddoedd, ond yn fwy diweddar dyfarnwyd doethuriaeth iddo gan Brifysgol Aberystwyth am ei ymchwil i hanes ymfudo a thwf trefi Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg 'hir' a'r newidiadau cymdeithasol, ieithyddol a chrefyddol yng Nghymru yn ystod yr amser hwnnw.
Mae'r ddarlith yn rhan o gyfres arbennig o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yr hydref hwn i arddangos yr hyn sydd yn Archifdy'r Brifysgol, sy'n cynnwys cofnodion ystâd Penrhos.
Dywedodd yr Archifydd Elen Simpson:
'Mae’r ddarlith hon yn ragflas wych ar gyfer ein Diwrnod Agored ddydd Gwener, 25 Hydref, a'r wythnos o weithdai yr ydym yn eu trefnu ar gyfer mis Tachwedd. Mae croeso i bawb ddod i archwilio'r dogfennau hynod ddiddorol yn ein archifau helaeth.'
Bydd mwy o fanylion am y gweithgareddau hyn ar gael ar wefan y Brifysgol yn fuan.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2019