Perchennog Busnes Gemwaith Llewyrchus o Ogledd Cymru yn Graddio
Mae gadael sicrwydd swydd fel athrawes yn fenter sydd wedi talu ar ei ganfed i entrepreneur lleol. Yr wythnos hon gall ychwanegu cael gradd meistr â rhagoriaeth at ei rhestr o lwyddiannau.
Graddiodd Gaenor Wyn Roberts, sy'n 46 oed ac sy'n dod o Lanfair Talhaearn, Abergele gydag MA mewn Busnes a Marchnata o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor.
Ers graddio mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn 1992, aeth Gaenor yn athrawes gynradd, cyn penderfynu mentro gadael sicrwydd y proffesiwn hwnnw i sefydlu ei chwmni gemwaith ei hun. Enw ei chwmni yw Tlws ac mae wedi bod yn rheolwr ar y cwmni hwnnw ers 11 mlynedd. Daw Gaenor yn wreiddiol o Ruthun, ond mae bellach yn byw ar fferm yn Llanfair Talhaearn gyda'i gŵr a thair o ferched yn eu harddegau.
Dechreuodd Gaenor ar ei chwrs ar yr un pryd ag y dechreuodd Lowri Alaw, ei merch, astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor. Tra oedd yn astudio parhaodd i redeg ei busnes ac i ymweld ag ysgolion a cholegau i ysbrydoli disgyblion fel rhan o brosiect Syniadau Mawr Cymru.
Dywedodd Gaenor: “Mae cael graddio eto'n deimlad gwych. Dwi mor falch i fi ddod yn ôl i'r brifysgol. Ro'n i dipyn yn bryderus cyn dechrau ar y cwrs y byddai'n anodd bod yn fyfyriwr hŷn, ond mae'n rhaid i fi gyfaddef, unwaith i'r cwrs ddechrau, mi wnes i anghofio fy mod i'n hŷn, ac mi o'n i'n cael fy nhrin yr un fath â phawb arall.”
"Roedd gweithio ac astudio yn dipyn o her weithiau, yn enwedig dros y Nadolig sef adeg prysuraf y flwyddyn i gwmni gemwaith. Ond dyna pryd yr oedd llawer o'r aseiniadau i fod i gael eu cyflwyno hefyd, ac ar ben hynny, ro'n i'n hel meddyliau am sefyll arholiadau am y tro cyntaf ers 25 mlynedd ym mis Ionawr. Roedd meddwl am sefyll arholiad yn ddychryn i mi braidd ac ro'n i'n poeni am fy ngallu i gofio'r wybodaeth a 'sgwennu'n ddi-baid am ddwyawr.”
"Roedd rhan o'r cwrs yn golygu gweithio mewn grwpiau ac roedd hynny'n bleser oherwydd bod y myfyrwyr yn griw amrywiol a diddorol. Fe ddes i 'nabod myfyrwyr o India, Chile, Honduras, Columbia, Nigeria, Pacistan, Canada, Tsieina ac o lawer o wledydd eraill, ac mae hynny wedi cyfoethogi fy mywyd, ac wedi fy ngwneud i'n llawer mwy ymwybodol o'r byd a'i ddinasyddion.”
"Roedd fy nhraethawd hir i’n canolbwyntio ar fusnesau y mae merched yn berchnogion arnyn nhw yng ngogledd orllewin Cymru. Mi ges i gyfle i gyfweld â merched, sydd, fel y gwnes i, wedi mentro i sefydlu eu busnesau eu hunain, ac mi ges i glywed sawl stori ar hyd y daith oedd yn ysbrydoli rhywun yn fawr. Dw i'n teimlo'n hynod o freintiedig i dderbyn y wobr am y traethawd hir gorau mewn Marchnata, Busnes a Rheoli am yr ymchwil yma."
Yn ogystal â pharhau â'i busnes, mae Gaenor wedi dechrau darlithio’n rhan-amser yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru, Prifysgol Glyndŵr. Mae hi hefyd wrthi'n datblygu Academi Talentau Ifanc Gogledd Cymru. Yn y dyfodol, hoffai Gaenor gwblhau PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016