Phoenix Piano Trio i berfformio yn Theatr Bryn Terfel
Bydd y Phoenix Piano Trio yn perfformio cyngerdd yn Theatr Bryn Terfel dydd Mercher yma 9 Tachwedd am 7.30pm.
Bydd y rhaglen yn cynnwys: Trio in E flat Hob.XV/30 (Haydn), 5 Noveletten (Gade) a Trio in B flat (Schubert).
Wedi eu sefydlu yn 2010, aelodau'r Phoenix Piano Trio yw Sholto Kynoch, Christian Elliott a Jonathan Stone. Gyda'i gilydd maent wedi sefydlu eu hunain fel un o ensemblau mwyaf blaenllaw Prydain.
Fe'i disgrifir yn Strings Magazine fel un sydd â 'naratif cerddorol a dyfnder arthurol'. Maent wedi perfformio ar sawl achlysur yn Neuadd Wigmore Llundain, a chafodd eu CD cyntaf - sef recordiad byw o weithiau Beethoven sy'n cynnwys y triawd 'Archddug' a'r triawd yn E fflat, Op.70 rhif 2 - ei lansio yn Wigmore yn 2012.
Maent hefyd yn hyrwyddwyr cerddoriaeth newydd ac wedi comisiynu gweithiau newydd gan bum cyfansoddwr Prydeinig, gan gynnwys Cheryl Frances-Had, Philip Venables ac Edwin Roxburgh. Mae eu huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau yn Ngwyl Ryedale, Gwyl Happy days yn Eniskillen, Gwyl Gerdd Ryngwladol Caerlyr a Chymdeithas Cerddoriaeth Siambr Llundain yn Kings Place.
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, "Rydym yn falch iawn o groesawu'r Phoenix Piano Trio i Pontio am y tro cyntaf ac yn edrych ymlaen i glywed perfformiad y cerddorion talentog yma."
Mae'r Phoenix Piano Trio yn rhan o raglen clasurol Pontio - ewch i https://issuu.com/pontio/docs/classical_brochure_aw-7?e=5199062/30000297 i weld y rhaglen lawn.
Phoenix Piano Trio
Nos Fercher, 9 Tachwedd, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10/£5 myfywryr ac o dan 18oed
Tocynnau: 01248 38 28 28 neu arlein www.pontio.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2016