Plant Cymru’n cyflwyno’r adroddiad cyntaf gan blant i’r Cenhedloedd Unedig
Gwahoddwyd disgyblion o dair ysgol leol (Ysgol Gynradd Biwmares, Ysgol Gynradd Sowthdown, Bwcle ac Ysgol Hiraddug, Dyserth) i ddigwyddiad a drefnwyd gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor (17 Tachwedd) er mwyn lansio’n ffurfiol adroddiad “Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out”. Dyma’r tro cyntaf erioed i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn dderbyn adroddiad a luniwyd gan blant 7-11 yn seiliedig ar eu hymchwil eu hunain.
Bu ymchwilwyr o Brifysgol Bangor (Arwyn Roberts) a Phrifysgol Abertawe (Helen Dale) yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru wrth baratoi’r adroddiad a noddwyd gan y Loteri Fawr. Bydd y disgyblion yn cyflwyno’r projectau ymchwil a gynhaliwyd ganddynt fel rhan o Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out.
Fel rhan o gytundeb Llywodraeth Cymru i ddilyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mae’n ofynnol arnynt i adrodd i’r Cenhedloedd Unedig ar sut y maent yn edrych ar ôl plant a'u hawliau.
Sail yr adroddiad ar hawliau plant yng Nghymru oedd dros 700 o atebion o ysgolion ledled Cymru mewn ymateb i holiadur a ddyluniwyd gan blant mewn 12 ysgol. Roedd yr holiadur yn gofyn i blant Cymru am eu hawliau i iechyd, addysg, chwarae, yr amgylchedd, gwybodaeth a lle maent yn byw. Bu’r plant yn edrych ar ganlyniadau’r holiadur a rhoi eu sylwadau arnynt. Crëwyd yr adroddiad Lleisiau Bach yn Galw Allan gan staff Lleisiau Bach drwy gasglu’r holl syniadau at ei gilydd.
Mae’r adroddiad wedi amlygu diffyg gwybodaeth o’r CCUHP / UNCRC. Nododd yr adroddiad hefyd y dylid rhoi mwy o lais i blant oed 7 – 11 yn eu cymuned ac y dylai plant gael newyddion a gwybodaeth sy’n addas iddyn nhw, weithiau maent yn cael gormod o wybodaeth.
Daeth ystadegau diddorol hefyd o’r gwaith gan gynnwys:
Mae gan 87% o’r plant a holwyd dabled / ipad
Mae 81% o blant yn gweld ysbwriel yn eu hamgylchedd
Mae 97% o’r plant yn meddwl dylai ysmygu gael ei wahardd mewn meysydd chwarae / parciau.
Mae’r ysgolion hefyd yn cael cyfle i edrych mewn manylder i bwnc o’u dewis eu hunain gyda chefnogaeth Lleisiau Bach. Dyma fydd sail eu cyflwyniad yn y cyfarfod.
Gweithiodd Ysgol Biwmares ar gyfleoedd am Ymarfer Corff yn yr ysgol. Gweithiodd y grŵp efo’r Pennaeth i gael gemau strwythuredig yn ystod amser egwyl ynghyd â chael offer gemau yn y neuadd yn ystod amseroedd egwyl gwlyb. Gweithiodd Ysgol Southdown, Bwcle ar Ddigartrefedd. Bu’r grŵp yn siarad â gweithiwr o hostel Tŷ Nos yn Wrecsam am y sefyllfa i bobl ifanc digartref yn yr ardal. Cafwyd diwrnod codi ymwybyddiaeth yn yr ysgol ar gyfer codi arian a chasglu pethau ymolchi i’r bobl ifanc. Bu disgyblion Ysgol Hiraddug yn edrych ar ehangu defnydd o’r mynydd lleol, Moel Hiraddug.
Roedd y cyfan yn rhan o ddigwyddiad agoriadol Observatory@Bangor, sef cangen Gogledd Cymru o Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, a sefydlwyd yn Ysgol y Gyfraith, Abertawe yn 2012.
Project ar y cyd yw’r Arsyllfa, â phartneriaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae’n darparu fforwm ar gyfer ymchwil, dadl, addysg a chyfnewid gwybodaeth am hawliau dynol plant a phobl ifanc, gan weithio tuag at wireddu hawliau dynol trwy bolisi, ymarfer, eiriolaeth a diwygio’r gyfraith.
“Mae hwn yn gyfle gwych ar gyfer prifysgolion Bangor ac Abertawe, fel ei gilydd,” medd yr Athro Cysylltiol Jane Williams, cyd-Gyfarwyddwr Sefydlol Arsyllfa Cymru. “O hyn ymlaen, bydd yr Observatory@Bangor a’r Observatory@Swansea, gan gydweithio ar draws disgyblaethau yn ein dwy brifysgol, yn gallu hyrwyddo ein gwaith ar hawliau plant yn well trwy Gymru benbaladr.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015