Plant ysgol yn creu celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys Môn
Bydd arddangosfa o waith celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys Môn yn ymweld â’r Galeri yng Nghaernarfon rhwng 15 Awst a 5 Medi.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfa a’r project o lyfr lloffion hynafiaethydd lleol. Yn ei lyfr lloffion, dyddiedig 1938, roedd yr hynafiaethydd Harold Senogles wedi cofnodi gwybodaeth archaeolegol a thynnu lluniau o’r cerrig mwyaf poblogaidd ar ynys Môn. Yn y llyfr hefyd roedd yn trafod y rhesymau dros adeiladu’r henebion gwych hyn. Daeth y llyfr lloffion, a roddwyd i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 15 mlynedd yn ôl, i’r golau unwaith eto wrth i wirfoddolwyr sganio tua chwarter miliwn o ddelweddau ar gyfer project Delweddu Archeoleg Gwynedd a ariennir gan Brifysgol Bangor.
Fel rhan o’r project, bu disgyblion o chwe ysgol ar Ynys Môn yn ymweld â phedwar safle meini hirion, gan gynnwys Tŷ Mawr yng Nghaergybi, Llanfechell, Y Cremlyn yn Llanddona a Bryngwyn ym Mrynsiencyn. Yn ystod yr ymweliadau hyn bu’r bobl ifanc yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig â'r cwricwlwm, er mwyn ail-greu'r wybodaeth yn y llyfr unigryw hwn. Tra ar y safle, buont hefyd yn creu gwaith celf prydferth drwy ddarlunio’r cerrig gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau. Bu gwirfoddolwyr gyda diddordeb brwd mewn archeoleg, celf a ffotograffiaeth hefyd yn cymryd rhan yn y project a helpu gyda'r ymweliadau ysgol.
Yn dilyn ymweliadau’r ysgolion â'r cerrig, crewyd mwy o gelf gan y bobol ifanc dan arweiniad Julie Williams, artist Cymraeg lleol, sydd wedi bod yn dysgu celf am dros 15 mlynedd. Mae'r gwaith hwn wedi creu arddangosfa gyffrous sy’n dod â chelf ac archaeoleg at ei gilydd i ddehongli'r agweddau diddorol hyn ar dreftadaeth Cymru. Ceir modelau 3-D o'r meini hirion a gafodd eu hargraffu fel rhan o broject Heritage Together y Brifysgol, sy’n cael ei ariannu gan yr AHRC.
Dechreuodd yr arddangosfa ar ei thaith yn Llyfrgell Caergybi ar 25 Mai, 2013 ac mae’n teithio o amgylch gwahanol fannau yng ngogledd Cymru am yr ychydig flynyddoedd nesaf.
http://heritagetogether.org/?lang=cy
Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2014